Bywgraffiad Artist

Galeri Delweddau

Lukasz Karauda

Bas-Bariton

Argraffu

Rheolwr Artist: Sioned Jones sioned.jones@harlequin-agency.co.uk

Is-Reolwr Artist: Carys Davies carys.davies@harlequin-agency.co.uk

Gwefan: http://www.lukaszkarauda.com/


Astudiodd y bas bariton o Wlad Pwyl, Lukasz Karauda yng Ngholeg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru, Caerdydd ac yn 2016 enwyd fel 'Canwr Mwyaf Addawol' cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn Cymry Llundain.  

Yn ddiweddar, perfformiodd Lukasz ran Escamillo mewn perfformiad cyngerdd arbennig o Carmen gyda Cherddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Mae ei uchafbwyntiau diweddar arall yn cynnwys dirprwyo'r Rhan Deitl yn Don Giovanni a Nello yn Pia de’Tolomei Donizetti gyda English Touring Opera, canu ran Zaretsky a dirprwyo'r Rhan Deitl i gynhyrchiad Grange Park Opera o Eugene Onegin a chanu rhannau Sciarrone Jailer mewn perfformiad arbennig wedi ei led-lwyfannu o Tosca yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Bryn Terfel yn 50 oed. 

Gwnaeth y bas-bariton o Wlad Pwyl, Lukasz Karauda ei début proffesiynol yn 2014 yn perfformio rhan Flora’s Servant yng nghynhyrchiad teithiol Glyndebourne o La Traviata. Yn dilyn hyn, canodd ran Zaretsky a dirprwyo’r Rhan Deitl i gynhyrchiad Grange Park Opera o Eugene Onegin yn 2015. Roedd hefyd yn aelod o'r corws ar gyfer cynhyrchiad Grange Park Opera o Fiddler on the Roof gyda Syr Bryn Terfel fel Tevye, a chafwyd perfformiad arbennig o’r cynhyrchiad fel rhan o gyfres Proms y BBC 2015 yn y Royal Albert Hall, Llundain.

Yn y tymor 2015/16, dirprwyodd y Rhan Deitl yn Don Giovanni a Nello yn Pia de’Tolomei Donizetti ar gyfer English Touring Opera, Escamillo mewn perfformiad cyngerdd arbennig o Carmen gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2016, Bartley yn Riders to the Sea ar gyfer Wexford Festival Opera ac yn fwyaf diweddar, Colline yn La Bohème gyda Diva Opera.

Mae ei uchafbwyntiau perfformio’n cynnwys canu rhannau Sciarrone a Jailer, gyda Syr Bryn Terfel yn canu Scarpia, mewn perfformiad cyngerdd wedi ei led-lwyfannu o Tosca gyda Cherddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, fel rhan o ddathliadau penblwydd Syr Bryn Terfel yn 50 oed. Mae ei uchafbwyntiau cyngerdd yn cynnwys Requiem Verdi yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Dechreuodd Lukasz ei hyfforddiant llais yn Academi Gerdd Lodz, Gwlad Pwyl gyda Wlodzimierz Zalewski cyn graddio gyda rhagoriaeth o'r cwrs M.A. Perfformiad Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd dan hyfforddiant Eric Roberts.

Tra’n astudio yng ngwlad Pwyl, enillodd y wobr gyntaf yn y 5ed gystadleuaeth Llais Cenedlaethol Kurpinski yn Wloszakowice a chanodd y Rhan Deitl yn Gianni Schicchi Puccini yn y Lodz Theater.

Ariannwyd ei astudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan Ysgoloriaeth Leverhulme ac Ysgoloriaeth Jenkins Phillips. Cafodd hefyd gefnogaeth ariannol hael gan Chris Ball. Mae ei wobrau yn y cyfnod yma yn cynnwys Gwobr Goffa Lee Freeman, gwobr yng ngystadleuaeth ganu Mozart yn 2013 a chanodd yn rownd derfynol Gwobr Ian Stoutzker, 2013. Tra’n y coleg, perfformiodd rannau Figaro yn Le nozze di Figaro, Junius yn The Rape of Lucretia a Steward yn Flight, Jonathan Dove. Mae hefyd wedi canu Dancaïre, Morales and Zuniga yn Carmen yng Ngŵyl St Magnus yn yr Alban, Tarquinius mewn rhaglen ddyfeisiedig  Britten’s Women yng Ngŵyl Caerfaddon a  Hel Helson yn Paul Bunyan ar gyfer Opera Ieuenctid Genedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Mae Lukasz yn dderbynnydd gwobr gan Ymddiriedolaeth Bryn Terfel ac yn dal teitl ‘Canwr Mwyaf Addawol’ cystadleuaeth ‘Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn’ Cymry Llundain, 2016.


Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Dvorak Te DeumSoloist
Mozart Requiem
Verdi Requiem
Dvorak
Te Deum
Soloist
Mozart
Requiem
Verdi
Requiem
Bizet CarmenDancaire, Zuniga, Morales, Escamillo
Britten The Rape of LucretiaJunius
Britten Paul BunyanHel Helson
Donizetti Pia de’ Tolomei Nello
Dove FlightSteward
Mozart Le nozze di FigaroFigaro
Mozart Don GiovanniTitle Role (u)
Puccini Gianni SchicchiTitle Role
Puccini ToscaSciarrone, Jailer
Puccini La BohemeColline
Tchaikovsky Eugene OneginZaretsky, Title Role (u)
Verdi La TraviataFlora's Servant
Bizet
Carmen
Dancaire, Zuniga, Morales, Escamillo
Britten
The Rape of Lucretia
Junius
Britten
Paul Bunyan
Hel Helson
Donizetti
Pia de’ Tolomei
Nello
Dove
Flight
Steward
Mozart
Le nozze di Figaro
Figaro
Mozart
Don Giovanni
Title Role (u)
Puccini
Gianni Schicchi
Title Role
Puccini
Tosca
Sciarrone, Jailer
Puccini
La Boheme
Colline
Tchaikovsky
Eugene Onegin
Zaretsky, Title Role (u)
Verdi
La Traviata
Flora's Servant

Opera

Eugene Onegin

Zaretsky in Eugene Onegin for Grange Park Opera, July 2015
Music OMH
Lukasz Karauda’s splendid baritone really stands out in the small role of Zaretsky.

Paul Bunyan

Hel Helson in Paul Bunyan for Welsh National Youth Opera, August 2013
Wales Arts Review
The young singer was a joy to hear and to behold, showing great levels of commitment and vitality with some wonderful acting and neatly-judged humour.

Flight

Steward in Flight for Royal Welsh College of Music and Drama, June 2013
National Theatre Wales
"I'm Bill, I'm not predictable" being shagged doggy-style by the highly-sexed Steward (Lukasz Karauda) at the end of Act II.

The Rape of Lucretia

Junius in The Rape of Lucretia for Royal Welsh College of Music and Drama, March 2013
seenandheard-international.com
Lukasz Karauda was particularly impressive. Junius isn't a simple character to embody, or in which to discover a convincing psychological or moral coherence. Karauda came closer to doing so than some far more experienced singers I have seen and heard undertaking the role.

Concerts / Recitals

Concert Performance of Carmen at Llangollen International Musical Eisteddfod, July 2016
The Daily Post
Polish baritone Lukasz Karauda made a credible bullfighter Escamillo.

This Artist Biography was last updated on 6 November 2017. It is our policy to update biographies every six months. If this information is to be used after 6 May 2018 please contact us and we shall be delighted to supply you with the latest version by return.