Bywgraffiad Artist

Galeri Delweddau

David Doidge

Cyfeilydd

Argraffu

Rheolwr Artist: Sioned Jones sioned.jones@harlequin-agency.co.uk


Ymunodd David â staff cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar, ar ôl cwblhau ei astudiaethau ôl-radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, gan arbenigo fel répétiteur mewn opera a hyfforddiant lleisiol. Mae wedi perfformio'n helaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru ac Only Men Aloud, ac yn gweithio'n aml gyda'r soprano boblogaidd Rebecca Evans. 

Mae David Doidge yn gyfeilydd/ répétiteur gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, mae David wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau gydag arweinyddion Rhyngwladol o fri megis Carlo Rizzi, Lothar Köenigs, Tomáš Hanus, Ainars Rubikis ac Erik Nielsen gydag uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Tosca, Don Giovanni, Eugene Onegin a Der Rosenkavalier.

Mae ymddangosiadau diweddar eraill yn cynnwys ‘Disney’s Beauty and the Beast Live in Concert - UK Tour’ gyda’r Novello Orchestra, dan faton David Mahoney a chyngherddau gyda’r tenor Cymraeg Trystan Llŷr Griffiths, seren Eurovision a’r ‘West End’ Lucie Jones a Lesley Garrett.

Yn berfformiwr rheolaidd yng Nghymru, mae perfformiadau ym Mhrydain yn cynnwys Wigmore Hall, Royal Albert Hall, Royal Festival Hall a St Martin-in-the-Fields yn Llundain; Leeds Lieder Festival a’r Edinburgh International Festival. Mae ymddangosiadau eraill yn cynnwys perfformiadau yn Los Angeles, Rhufain, Ischia, Oman ac ym Mrwsel.

Mae ei bartneriaid mewn cyngherddau a datganiadau wedi cynnwys Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans, Nuccia Focile, Gwyn Hughes Jones, Lesley Garrett, Alfie Boe, Trystan Llŷr Griffiths, Gary Griffiths a Bruce Sledge.

Mae David wedi chwarae ar nifer o recordiadau a darllediadau byw ar gyfer BBC Radio 3, Classic FM a BBC Radio Wales, yn ogystal ag ymddangosiadau teledu gyda Syr Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Connie Fisher.

Mae David yn hyfforddwr llais achlysurol ar gyfer yr Ysgol Opera ac Adran Astudiaethau Llais Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.   

Y tymor yma, mae'n ymuno a staff cerddorol Grange Park Opera ar gyfer eu cynhyrchiad o Oklahoma.


Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Concerts / Recitals

Accompanying Bryn Terfel in recital at the Bristol Proms, July 2014
www.musicomh.com
.....and Wotan’s final entry into Valhalla from Wagner’s Das Rhinegold, with Terfel expertly accompanied by young pianist David Doidge.
Lunchtime Concert at The Royal Welsh College of Music and Drama, Cardiff, July 2014
Seen and Heard International
Pianists David Doidge and Seho Lee took to the stage of Cardiff’s Dora Stoutzker Hall at the RWCMD on the 4th July for what was a charming lunchtime concert. Postgraduate students of considerable acclaim and irrefutable promise (Doidge was the 2010 recipient of the Mansel Thomas Memorial Prize for accompanists, and Lee won the 2012 Delius Prize), their performances and interpretation of four challenging pieces was professional and intelligent. Both showed conviction and integrity as they performed Busoni’s two-piano arrangement of the Overture from Mozart’s Magic Flute, Saint-Saens’s Dance Macabre Op. 40 for two pianos, Richard Simm’s arrangement for two pianos of the Concert Suite from Bizet’s Carmen, and Rachmaninov’s Romance and Tarantella from his Suite No. 2, Op. 17 for two pianos.
Lunchtime recital with Reisha Adams at the Riverfront, 2010
What came across most forcibly was Ms Adams's steely charm and Mr Doidge's versatility. The pointers were definitely there - particularly in ….. the pianist's now blistering, now composed rendering of Chopin's Scherzo No. 3 Opus 39 and in the deft accompaniment to three settings of Edith Sitwell by Walton.

This Artist Biography was last updated on 3 September 2018. It is our policy to update biographies every six months. If this information is to be used after 3 March 2019 please contact us and we shall be delighted to supply you with the latest version by return.