Mae gan y mezzo-soprano o Gymru Sian Meinir dros 20 mlynedd o brofiad yn perfformio gyda rhai o brif gwmnïau opera’r Deyrnas Unedig. Mae ansawdd ei llais contralto drawiadol yn rhoi repertoire eang iddi sy’n ymestyn o Verdi, Wagner, Janáček a Schoenberg i rolau cymeriad a gweithiau cyfoes.
Mae ei rhannau i Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys Iseult of the White Hands Le Vin Herbé; Kate Pinkerton Madama Butterfly (fersiwn estynedig Julian Smith); Enrichetta I Puritani; Margaret Wozzeck; Solo Voice Moses und Aron; Annina La Traviata; Inez Il Trovatore; Giovanna Rigoletto; Rychtarka Jenufa; Awen Gair ar Gnawd (Premiere Byd), a ddarlledwyd ar S4C. Bu’n cysgodi nifer o rannau i’r Cwmni Opera Cenedlaethol; yn eu plith Mary Der Fliegende Hollander; Sick Woman Moses und Aron; Third Lady Magic Flute; Bird The Sacrifice; Grandmother Jenufa; Mamma Lucia Cavalleria Rusticana. Mae wedi perfformio golygfeydd Suzuki Madame Butterfly ar gyfer Creative y Cwmni yn Llundain a recordiodd Zena Katya Kabanova gyda’r Cwmni i Chandos.
Tra yn y Royal Opera House, Covent Garden, perfformiodd Bridesmaid Le Nozze di Figaro; Slave Salome; Noble Orphan Der Rosenkavalier and Solo Voice yn Premiere Byd o ballet Twyla Tharp, Mr Wordly Wise.
Mae gan Sian radd B.A gydag anrhydedd o Brifysgol Cymru, Bangor, a dilynodd hynny gyda Dip.RAM and LRAM o’r Royal Academy of Music, Llundain. Gwnaeth ei début gyda’r Opera Factory fel Baba the Turk yn The Rake’s Progress yn y Purcell Room, Southbank Centre a Teatro Municipal, Lisbon. Yr un flwyddyn canodd yn y Musical nel Chiostro Opera Festival, Batignano, Tuscany mewn cynhyrchiad o Candide Bernstein dan gyfarwyddyd Graham Vick.
Mae ei uchafbwyntiau fel unawdydd cyngerdd yn cynnwys Elijah mewn perfformiad gyda Sir Bryn Terfel dan arweiniad Richard Hickox, Wesendonck Lieder yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda’r Cwmni Opera Cenedlaethol, Das Lied von der Erde a Ruckert Lieder yn Eglwys Gadeiriol Llandaff. Gwnaeth Sian ei début fel unawdydd yn y Royal Albert Hall yn nghyngerdd ‘The Best of Welsh’. Mae wedi rhoi datganiadau yn holl brif ddinasoedd De Affrig yn ogystal â pherfformiadau o’r Messiah ym Mharis a Guernsey, Stabat Mater Rossini yn Montbotbourg Abbey, Offeren yn B leiaf yn St. Martin’s in the Field a Gloria Vivaldi a Magnificat Bach yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae cyngherddau eraill yn cynnwys Frauenliebe und leben, Schumann a chylchoedd lieder Maria Stuart yn Eglwysi Cadeiriol Bangor a Southwark.
Y tymor diwethaf, perfformiodd Sian rhannau Dr. Heinkel/ Alfana/ Hen wraig y Bala yn y premiere byd o Wythnos yng Nghymru Fydd gan Gareth Glyn i Opra Cymru a dirprwyo Filipyevna yng nghynhyrchiad Scottish Opera o Eugene Onegin.
Y tymor hwn bydd Sian yn perfformio Annina yn La Traviata gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Rydym yn diweddaru'n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.