Dechreuodd Gareth Jones ar ei yrfa fel arweinydd yn 1990 fel aelod o Staff Cerddorol Opera Cenedlaethol Cymru. Tra roedd yno, bu’n arwain repertoire eang yn cynnwys Un Ballo in Maschera, Il Barbiere di Siviglia, Turandot, Nabucco, La Traviata, Ernani, Die Fledermaus, Eugene Onegin, The Yeomen of the Guard, Faust, La Bohème, Fidelio, Billy Budd, The Carmelites, Carmen, Kátya Kabanová, The Cunning Little Vixen, Jenufa, Le nozze di Figaro, Der Fliegende Hollander, Madama Butterfly, La Cenerentola, Die Zauberflöte and Hänsel Und Gretel.
Yn 2009 a 2010, arweiniodd Gareth Aida yng Ngŵyl Bregenz. Bu’n arwain The Mikado i Vancouver Opera ac English National Opera a dychwelodd i’r Royal Northern College of Music, ei alma mater, yn 2011 i arwain Vanessa gan Barber. Arweiniodd première y DU o A Perfect American gan Philip Glass ar gyfer English National Opera yn 2013 ac ar gyfer Opera Queensland yng Ngŵyl Brisbane yn 2014. Yr un flwyddyn, arweiniodd Gareth perfformiadau o Showboat yn y DU, De Affrica mewn partneriaeth rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Cape Town Opera. Ymunodd ag Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer Kiss Me Kate yn yr Hydref 2016 a chychwynnodd 2017 yn arwain cynhyrchiad English National Opera o The Pirates of Penzance.
Yn 1996, sefydlodd Gareth Sinfonia Cymru a ddaeth, yn y blynyddoedd diwethaf, yn brif gerddorfa siambr Cymru. Mae nifer o artistiaid blaenllaw wedi gweithio gyda Gareth a’r gerddorfa yn cynnwys Dennis O’Neill, Rebecca Evans, Simon Keenlyside, Joseph Calleja, Gwyn Hughes Jones, Jean Phillipe Collard, Peter Donohoe, David Pyatt, Michael Collins, Chloe Hanslip, Catrin Finch, Guy Johnston, Liwei Qin, Alina Ibragimova, Jiafeng Chen a Llŷr Williams.
O ganlyniad i’r derbyniad gwresog a gafodd cyngerdd Gala Sinfonia Cymru gyda Syr Bryn Terfel yn Ebrill 2000, oedd yn cynnwys perfformiad o Wotan’s Farewell, mae perthynas agos wedi datblygu rhwng Bryn, Gareth a’r gerddorfa. Mae Gareth wedi gweithio gyda Bryn ar nifer o brosiectau yn cynnwys y ddisg ‘We’ll Keep a Welcome’, galas opera yn y Faenol, Gwyliau Henley a Hampton Court ac ar recordiad i S4C o Messiah Handel. Ar ben hyn mae Gareth wedi arwain mwy na 60 o gyngherddau ledled y byd gyda Bryn, yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms gyda Renée Fleming a Bryn yn perfformio gweithiau gan Wagner and Strauss. Yn 2013 teithiodd drwy Scandinafia gyda Bryn mewn cyfres o gyngherddau Wagner gyda cherddorfeydd yn cynnwys Stavanger Symphony Orchestra, Danish Radio Symphony Orchestra a’r Helsinki Philharmonic. Bu Gareth yn arweinydd rheolaidd yng Ngŵyl y Faenol lle gweithiodd gyda chantorion rhyngwladol fel Andrea Bocelli, Angela Gheorghiu, Rolando Villazon, Renée Fleming, Carlos Alvarez, Simon Keenlyside a Diana Damrau.
Mae gwaith cyngerdd Gareth yn y DU yn cynnwys ymddangosiadau gyda cherddorfa’r Hallé, y Scottish Chamber Orchestra, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Scottish National Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, y Philharmonia Orchestra, The Ulster Orchestra, English Chamber Orchestra a’r Manchester Camerata. Ymhlith ei uchafbwyntiau mae BBC Proms yn y Parc gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, cyngerdd dathlu penblwydd Syr Bryn Terfel yn 50 yn Neuadd Frenhinol Albert, cyngherddau yng Ngŵyl Henley, Hungarian State Opera, Budapest, Gŵyl Llais yng Nghaerdydd a pherfformiad cyngerdd wedi’i led-lwyfannu o Tosca yng Ngwyl Abu Dhabi gyda Syr Bryn Terfel a Kristine Opolais.
Mae ymrwymiadau diweddar Gareth a'r rhai i'r dyfodol y tymor hwn yn cynnwys cyngherddau gyda Syr Bryn Terfel yn Bucharest, Melbourne, Sydney a Budapest a pherfformiadau o Un ballo in maschera a Les vêpres siciliennes gan Verdi i Opera Cenedlaethol Cymru.
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.