News

I'r Entrychion..

6th May, 2015

Erthygl gan Carys Davies


Israeliad ail genhedleth yw Ran Arthur Braun ac mae wedi ymroi ei hunan drwy'i fywyd i rannu eiliadau, breuddwydion a ffantasiau gyda phobl o gwmpas y byd.  Y tymor hwn mae wedi cyfarwyddo a gwneud y coreograffi ar gynhyrchiadau newydd o L’enfant et Sortilege a Le Rossignol i Theatr Wielki ac wedi ennill Gwobr Jan Kiepura am Gyfarwyddwr Gorau 2015 yng Ngwobrwyon Theatr Gwlad Pwyl.  Ond gallai fod wedi bod yn stori wahanol i'r cymeriad uchelgeisiol hwn:

Roeddwn yn agos iawn at gael fy nrafftio i'r Navy Seals. Fel Israeli, mae'n orfodol i bob dyn gael ei ddrafftio i'r lluoedd arfog am dair blynedd. Roedd fy mhlentyndod yn baratoad at fod yn filwr.  Yn gynnar iawn yn ystod fy ngwasanaeth, deuthum i sylweddoli nad oeddwn yn perthyn yno yn gwneud y gwaith yma. Doeddwn i ddim am ladd neb, a doeddwn i ddim am gael fy lladd.  Beth oeddwn i wirioneddol am ei wneud oedd canu a dawnsio a gwneud pobl yn hapus; a dyna'n union beth wnes i. Euthum am wrandawiad am swydd arbennig yn y fyddin fel actor a chanwr. Mi gefais y gwaith pleserus o ddiddanu a rhoi gwên ar wynebau, a dwi'n ddiolchgar am hynny. Yn ystod fy ngwasanaeth mi berfformiais 375 gwaith i wahanol unedau brwydro yn y Lluoedd Arbennig.

Rwyf wastad wedi caru cerddoriaeth.  Roeddwn yn gwrando ar Mozart for Kids bob dydd pan oeddwn yn blentyn.  Cofiaf, pan oeddwn i tua 5 oed, imi ddweud wrth fy mam mod i'n gallu gwneud miwsig.  Dyma nhw yn fy ngyrru i Ysgol Gerdd ac o'r oedran hwnnw – 5 oed – roeddwn yn astudio'r piano a'r recorder ac, yn y coleg cerdd, dechreuais ganu.  Rwy'n caru cerddoriaeth, ac yr oeddwn yn gallu creu cerddoriaeth gydag offeryn, gyda'r llais a nawr drwy gyfarwyddo a choreograffi.

Mi gefais gefnogaeth y teulu i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Fy rhieni oedd un o'r dylanwadau mwyaf yn ystod y blynyddoedd o hyfforddiant a pherfformio ac yn awr yn cyfarwyddo. Fel plentyn, rhoisant y rhyddid imi i fod yn fi'n hunan ac i brofi gwahanol bethau.  Rhoisant ganiatâd imi fod yn wyllt a chreadigol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae nhw wedi buddsoddi ynof fi ac yn awr, pan fydd yna premiere, mae nhw'n dod i'w weld. Dyma fy ffordd i o ddweud diolch am adael imi fod yn fi fy hunan ac am y gefnogaeth mae nhw wedi ei roi dros y blynyddoedd. Heb gefnogaeth teulu mi fyddai'n hawdd iawn rhoi'r gorau iddi yn y diwydiant yma.

Cafodd Ran ei hyfforddi ar y dechrau fel canwr yn nosbarth Piano a Chanu Clasurol yn y Jerusalem Academy of Music and Dance:

Tenor cymeriad oeddwn i.  Doedd gen i ddim llais bendigedig, yn anffodus, felly mi  benderfynais wneud iawn am hynny gyda rhyw allu corfforol a chanolbwyntio ar grefftau milwrol. Aeth beth ddechreuodd fel hobi yn brif ffynhonell incwm. 

Mae ganddo ddealltwriaeth draddodiadol o sut i ddweud stori a chelfyddyd llais ond llygaid hollol ffres a modern am symudiad a thechnoleg.  Mae hyn yn rhoi galw mawr arno i gyfarwyddo cynhyrchiadau gyda champau hedfan, symud ac ymladd a'r mis hwn mae'n ymuno gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel cyfarwyddwr campau awyr, symudiadau ac ymladd yn Peter Pan, Richard Ayers.  Gyda Peter Pan yn  agor yn Nghanolfan Mileniwm Cymru yr wythnos nesaf, roeddwn yn ffodus i dreulio peth amser gyda Ran rhwng ymarferion, i ddysgu am ei grefft a gofyn cwestiynau o bwys. 

Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae fel dychwelyd at y teulu ac amser wedi aros yn llonydd. Mae yna rai hen wynebau, rhai wynebau newydd, ond mae'r teimlad bob amser run peth. Dyw maint y cwmni ddim yn adlewyrchu safon eu gwaith.

Fel cyfarwyddwr campau hedfan ac ymladd, rwy'n cael gwneud y pethau hwyliog i gyd. Yn sylfaenol, rwy'n cyfieithu i symudiadau yr hyn mae pobl heddiw yn ei weld mewn sinemâu a'i roi ar y llwyfan. Dydw ddim yn ei weld fel gwaith – mae fel rhodd a phobl yn talu i mi am fod yn blentyn! Mae'n wych.

Sut yn union byddwch chi'n rhoi golygfa ymladd at ei gilydd?

Y peth pwysicaf i'w gofio pan fyddwch yn rhoi golygfa ymladd at ei gilydd yw dweud y stori yn glir a chyffrous. Rwy'n hoffi defnyddio rhai elfennau cerddorfaol: brawddegu, pwyntiau cownter a'u dehongli i wahanol haenau o symudiad. Mae'r cyfansoddwr eisoes wedi rhoi'r trac sain inni. Mae fel arfer y ffordd arall. Mewn ffilmiau maen nhw'n rhoi'r trac sain i mewn ar ôl i'r ffilm gael ei gwneud, ond mewn opera, yr ydym eisoes yn cael y trac sain, felly mewn ffordd, mae'n fwy o hwyl - eich bod yn gwybod beth rydych chi'n gweithio gydag e.

Fyddech chi'n gwneud coreograffi golygfa ymladd cyn mynd i'r ymarferion, neu ydych chi angen gwybod beth ydych chi'n gweithio gydag ef yn gyntaf?

Mi ddylech fod yn barod bob amser, yn gerddorol ac yn ddramatig. Mae'r dilyniant gen i yn fy meddwl, ond mae'n rhaid imi fod yn gallu gadael i'r cyfan fynd os daw yna well syniad.Wrth weithio gyda pherson, fe allen nhw ddehongli symudiad neu weithred yn wahanol i'r hyn sydd gen i yn fy mhen. Fe allai hyn greu dilyniant newydd neu symudiad newydd sy'n well na'r syniad gwreiddiol, felly mae'n gyfuniad o baratoi a bod yn agored i ddatblygiad naturiol y broses.

Ydw i'n iawn i ddweud mai chi wnaeth y coreograffi ar yr olygfa ymladd yn y ffilm Sherlock Homes  gyda Robert Downey Jr?

Na, yn anffodus dyw hynny ddim yn wir – licien i pe bai e. Rwy'n aelod o'r Gymdeithas  Bartitsu wnaeth gryn dipyn o waith ar y grefft ymladd sef Bartitsu. Fe wnaethon ni raglen ddogfen, cyhoeddi llyfrau hyfforddi a hyfforddi pobl dros y byd.  Roedd yr olygfa yn Sherlock Holmes wedi ei seilio yr ymchwil wnaethom ni. O ganlyniad  mae'r grefft ymladd eclectig yma wedi cael dipyn o adfywiad.

Fel coreograffydd, rhaid i chi ddangos i bobl beth yr ydych chi am iddyn nhw ei wneud, felly rydych chi'n gorfod bod yn ffit. Sut ydych chi'n cadw'n iach a heini? Oes gaennych chi amserlen cadw'n heini?

Ar oedran penodol yr ydych yn ymddiried i Fam Natur wneud yr holl waith i chi. Rhwng ieuenctid, uchelgais ac esgeulustod, gallwch wneud llawer o bethau. Pan fyddwch yn croesi oedran penodol, a heb fod mor ffit a chryf ag oeddech chi, mae'n rhaid i chi fod yn fwy gofalus. Rwy'n ymarfer yn y gampfa, ac yn gwneud rhywfaint o hyfforddiant ymladd a symudiad. Rhaid i mi ddisgyblu fy hun. Mae eich corff angen mwy o ofal wrth i chi fynd yn hyn. Rydych chi am fwynhau bywyd ac er mwyn gwneud hynny, ni allwch esgeuluso eich corff; eich corff yw eich teml.

Beth allwn ni ei ddisgwyl o Peter Pan Opera Cenedlaethol Cymru?

Mi gewch weld meddwl disglair Keith Warner ar ei orau. Mae'n bleser gweithio gydag e a gweddill y tîm.  Mae'r cynhyrchiad wedi ei ymarfer gyda'r fath ofal a brwdfrydedd gan bawb ac mi fydd hynny i'w weld ar y noson. Mi fydd yn sioe gyffrous iawn, iawn, yn gyflym, deinamig a ffraeth gyda digon o bethau'n digwydd i gynulleidfaoedd o bob oed.  Dwi'n hoffi her ac mae Peter Pan yn her fawr. Dydy hi ddim yn hawdd o gwbl.

Beth yw'r elfen galetaf am Peter Pan?

Mae
Peter Pan yn gynhyrchiad rhyfeddol. Rydym bob amser yn buddsoddi llawer mewn creadigrwydd ond o fewn ffimiau perfformiad teithiol fydd yn gorfod addasu i wahanol neuaddau a chyllideb theatrig sy'n gorfod gofalu am elfennau eraill yr un mor bwysig. Roeddem yn gorfod gweithio'n llawer caletach.  Mae wedi bod yn brofiad cyffrous a roddodd lawer o foddhad.

Mewn cyfweliad diweddar gyda International Poznan fe ddwedoch chi ‘dydych chi ddim ond cystal â'ch perfformiad diwethaf'. Ydych chi'n meddwl eich bod yn rhoi gormod o bwysau arnoch eich hunan?

Na, rwy'n credu ei fod yn sylw realistig iawn. Pan fyddwch yn cyfarwyddo neu'n gwneud y coreograffi, mae'n rhaid i chi fod yn argyhoeddiadol o'r hyn rydych yn ei wneud, fel arall allwch chi ddim cael pobl eraill i ddilyn eich ffantasi, eich breuddwyd. Gall barn y cyhoedd effeithio ar eich swydd nesaf, felly mae'n bwysig i wthio eich hun.

Rydym i gyd yn hoffi cael ein gwerthfawrogi; a gall y gwerthfawrogiad gael ei gyflwyno mewn ffyrdd gwahanol - gyda gwên, cwtsh, gyda gwobrau neu gyda llinell neis mewn adolygiad, ond rhaid i chi fod yn hapus gyda'r hyn rydych chi wedi ei wneud, neu does dim ots am ddim. Dylech bob amser geisio creu rhywbeth y byddech chi eich hunan yn hoffi ei wylio. Dylai hynny bob amser fod yn fan cychwyn fel coreograffydd neu gyfarwyddwr ac wedyn ceisio ei rannu gyda gymaint o bobl ag y bo modd.

Ydych chi'n mynd yn nerfus cyn perfformiadau?

Rwy'n cael nerfusrwydd 'da'. Mae'n debyg y byddech yn ei alw'n gyffro. Hyd yn oed pan nad ydw i yn y perfformiad yn bersonol, Rwy'n dal yn ymwybodol fod perfformiad yn digwydd, ac mi fyddai'n gwenu.

Pa berfformiad oedd fwyaf trwm ar y nerfau?

Wn i ddim. Dwi heb gael un eto.

Rydych chi wedi gweithio fel cyfarwyddwr diwygio,  cyfarwyddwr cyswllt a rheolwr llwyfan mewn mwy na 50 o gynhyrchiadau mewn tai opera ledled Ewrop. Pa gynhyrchiad sydd agosaf at eich calon?

O ddifrif, rwy'n cwympo mewn cariad gyda phob cynhyrchiad. Dwi'n credu fod hyn yn bwysig i'r broses greadigol.

Mae fy nghynyrchiadau mwyaf cofiadwy yn gysylltiedig â David Poutney a Gwyl Bregenz. Mi gwrddais i David Poutney ar ôl gorffen canu a dros y blynyddoedd gyda'i arweiniad a'i ofal ef – mae wedi bod fel mentor artistig ac yn ysbrydoliaeth i'r ffordd rydw i'n gweld ac yn gweithio yn y theatr. Er mwyn cyfarwyddo rhaid i chi fod yn gerddorol fel hyn ac mae'n hyfryd i weithio gydag e; mae'n ysbrydoliaeth. 

Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yma?

Trans Maghreb oedd y cynhyrchiad pwysicaf i mi'n bersonol. Cynhyrchiad rhyngweithiol gafodd premiere ar ddydd fy mhen-blwydd, roedd yn achlysur ffantastig. Roeddwn am greu sioe lle roedd y gynulleidfa yn brif gymeriad. Profiad theatrig oedd yn eich cyffwrdd. Do’n nhw ddim jyst yn gwylio'r llanast gwleidyddol; roedden nhw'n rhan ohono. Roedden nhw ynghanol popeth oedd yn digwydd.  Roedd ymateb gwahanol gan wahanol gynulleidfaoedd, ac roedd pob perfformiad yn wahanol. Y bwriad oedd creu theatr oedd yn eu cyffwrdd a'u diddanu, ond yn eu gadael gyda rhywbeth i feddwl amdano.

Beth sy'n dod i fyny yn y dyddiadur yr ydych yn edrych ymlaen ato fwyaf?


Mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i'n mynd yn fwy a mwy cyffrous am y cyfarwyddo, felly dwi'n gobeithio caf i wneud fwy o'm cynhyrchiadau fy hunan yn y dyfodol.

Mae yna nifer o bethau yn gysylltiedig â Gwyl Bregenz yr ydw i'n edrych ymlaen atyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r tîm fydd yn gwneud Carmen yn 2017.  Am brosiectau penodol, rwy'n edrych ymlaen at bob job. Bob amser yn hapus ei fod yn waith sy'n caniatau imi deithio'n aml!

Pe gallech weithio gydag unrhyw gwmni yn y byd, pa un fyddai?

Mi garen weithio gydag unrhyw gwmni sy'n fodlon cofleidio a buddsoddi yn y profiad theatrig.  Rhaid deall na allwch chi dderbyn cyny gallwch chi roi.

Beth fyddech chi'n ei wneud yn y dyfodol, pe gallech ddewis?

Cyfarwyddo Bryn Terfel. O ddifrif, i gyfarwyddo Bryn a Jonas Kaufmann yn Tosca. Rwy'n gwybod eu bod wedi ei wneud, ond dydyn nhw ddim wedi ei wneud gyda fi! Mae Tosca yn opera rwyf am ei chyfarwyddo ac nawr rwy'n barod. Mae yna wahaniaeth rhwng chwennych a gwybod.

Byddai'r Flying Dutchman yn opsiwn arall. Ei ddewis ef!

Rwy'n siwr i mi ddarllen yn rhywle y byddech chi'n hoffi cyfarwyddo seremoni agoriadol y gemau Olympaidd – ydy hyn yn wir?



O, ydy wir!. 

Petaech chi ond yn cael gwneud un, prun fyddai: yr Olympics neu Tosca gyda Bryn?



Beth ddwedwn i yw, - cyfarwyddo Bryn yn yr Olympics!



Chi ddim yn gofyn am lot.

Na. Mae bywyd fel 'rollercoaster', ac mi hoffwn i dreial popeth, o leiaf unwaith. Mae sioeau mewn lleoliadau mawr yn gadael ichi herio'ch hunan ac mae cael cynhyrchiad fel y Gemau Olympaidd fel byw yng ngwlad hud a lledrith!

Mae Peter Pan yn agor dydd Sadwrn, Mai 16eg am 18:30 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd gyda pherfformiadau diweddarach ar nos Sadwrn, Mai 23ain am 18:30 a Nos Sul y 31ain o Fai am 16:00. Bydd y cynhyrchiad wedyn yn teithio i'r Birmingham Hippodrome ar ddydd Iau Mehefin 11eg, ac i'r Royal Opera House, Covent Garden ar Fai 24ain a 25ain.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma:


https://www.wno.org.uk/event/peter-pan