News

Diva yn Dyfod

31st May, 2015

Bydd y mezzo Caryl Hughes, sy'n wreiddiol o Aberdaron, yn chwarae rhan Cherubino am y tro cyntaf y tymor hwn yng nghynhyrchiad teithiol Diva Opera o Le nozze di Figaro.

“Mae canu yn gwneud i mi deimlo'n llawn bywyd – mae'n gymysgedd go iawn ac mae chwarae rhan  rhywun arall yn ein rhyddhau, mae yna elfen o berygl sy'n gyffrous – ac mae'n caniatáu imi fod yn greadigol bob dydd.” 

“Llencyn ar ei brifiant yw Cherubino, yn llawn hormonau gwyllt. Mae dod i'w nabod wedi bod yn bleser llwyr.  Mae wedi dotio ar bob menyw ond yn arbennig Countess Almaviva. Mae pawb yn caru  Cherubino, ar wahân i'r Count! Mae'n rhyfeddu ar bopeth ac yn credu fod pob menyw yn odidog – mae'n profi serch a chariad am y tro cyntaf ac mae mor gyffrous iddo.”

“Dwi'n credu mai'r peth mwyaf heriol amdano yw cael y cydbwysedd iawn rhwng y diniweidrwydd   llwyr a'r aeddfedrwydd rownd y gornel – rhaid inni weld ei botenshial fel dyn.  Mae'n rhaid i'r gynulleidfa gredu fod y Count yn cael ei fygwth ganddo ac wrth gwrs mae'n rhaid iddo fod yn gredadwy fel ymgeisydd am serch y Countess.”

“Arias Cherubino oedd rhai o'r darnau clasurol cyntaf imi eu dysgu yn fy arddegau ond dyma'r tro cyntaf imi chwarae'r rhan ac rydwi'n teimlo'n gyffrous iawn am hynny. Mae'r arias eu hunain yn eitha cyfarwydd, felly mae yna bwysau ychwanegol ond, os gallaI gofio eu bod nhw'n newydd sbon bob nos, gobeithio y byddai'n gallu cadw'r naturioldeb sy'n rhan fawr o'i hanfod fel cymeriad.”

“Mae taith Diva Opera yn para gydol yr hâf, felly dwi'n gobeithio y bydd Cherubino yn rhan ohonof erbyn diwedd y daith ac y byddaf wedi dysgu popeth amdano ac am angst ei lencyndod! Rydym hefyd yn cael teithio o gwmpas Ffrainc am ran fawr o'r haf ac mae hynny'n plus mawr!”

Mae Cynhyrchiad Diva Opera o Le nozze di Figaro yn agor yn Syon Park, Llundain ar Fehefin 17eg. Mae mwy o wybodaeth am y perfformormiadau i'w gael yma:

http://www.divaopera.com/2015-schedule/