News

Hau Hadau Llwyddiant

2nd June, 2015

Mae Elgan Llŷr Thomas, pedair ar hugain oed, yn brawf o'r ffaith fod gwaith caled ac ymroddiad yn fformiwla lwyddiannus ym myd Opera.  Ar waetha'r ffaith iddo fod mewn addysg lawn  dros y saith mlynedd diwethaf, mae Elgan, sydd o Landudno yn wreiddiol, wedi rhoi ei holl amser i osod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym myd opera.

Wedi graddio o'r Royal Northern College of Music ym Manceinion, cwblhaodd ei radd Meistr yn y Guildhall School of Music and Drama yn Llundain ac mae nawr yn rhan o'u cwrs opera gwych. Gyda blwyddyn i fynd, mae Elgan wedi dechrau gwneud enw iddo'i hun yn y diwydiant.  Mae wedi gweithio gyda  Garsington Opera, yn canu yn y corws ac yn dirprwyo rhannau Binet yn Vert-Vert Offenbach a Selimo yn Maometto Secondo gan Rossini. Mae wedi canu prif rannau i'r cwmni Cymraeg, Opra Cymru, a bydd yn perfformio rhan Count Almaviva yn y Barber of Seville yng Ngŵyl Ryngwladol  Gerddorol Mananan ar Ynys Manaw yn nes ymlaen eleni.  Un o'i uchafbwyntiau operatig oedd cymryd rhan Johnny Inkslinger yng nghynhyrchiad can mlwyddiant Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru o  Paul Bunyan,  Britten yn 2013, rôl lle y derbyniodd ganmoliaeth o fry. Ysgrifennodd y Guardian:

“Bunyan may loom largest, but Johnny Inkslinger – a cipher for Auden himself – is the main focus, and here Elgan Llyr Thomas's tenor shone out as a real hope for the future.”

Roedd perfformio yn Paul Bunyan yn brofiad arbennig iawn. Roedd yr opera yn rhyfeddol, y rhan yn grêt a'r cynhyrchiad yn well fyth!  Lleisiwyd rhan Paul Bunyan, yr arwr gwerin mawr, gan Stephen Fry. Er nad oedd o yno mewn cig a gwaed, tafluniwyd llun o'i wyneb ar sgrin fawr ynghanol y llwyfan, fel y cymeriad hollbresennol, gydol yr opera. Yn dilyn y cynhyrchiad arbennig hwn, cefais fy ngwahodd i fynd ar One Show y BBC fel gwestai gyda Stephen Fry. Roedd hynny'n anrhydedd mawr.

Mae uchafbwyntiau eraill i Elgan yn cynnwys ymddangos mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel ym Mhrifysgol Bangor a pherfformio deuawd gyda Bryn yn ei raglen Nadolig ar S4C. 

Mae Bryn Terfel yn gymaint o gawr yn y byd opera, ond weithiau yng Nghymru rydym yn tueddu i anghofio hyn. Rydw i wedi gweithio efo fo amryw o weithiau, ac mae fy nghyd gantorion Trystan Llŷr Griffiths a Menna Cazel hefyd wedi gweithio efo fo lawer gwaith. Mi fyddai'n hawdd iawn bod yn  blasé am hyn a meddwl ei fod yn normal, ond nid dyna fel mae hi. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ba mor ffodus ydan ni i gael y fath gyfleon. Yn ddiweddar, mi fues i mewn perfformiad o Don Giovanni fel gwestai i Bryn yn y Royal Opera House. Mi gerddais i mewn efo fo ac roedd pawb yn syllu – trît go iawn a gwirioneddol gyffrous. 

Pan ddechreuodd Elgan ganu flynyddoedd yn ôl, ei ogwydd cyntaf oedd at theatr gerdd yn hytrach nag opera:

Roeddwn yn 15/16 oed pan ddechreuais i ganu, a'r sioe gerdd oedd y peth cyntaf imi ei ystyried. Wedi gwneud fy arholiad Gradd 8, awgrymodd fy athro cerdd imi wneud clyweliad i'r Royal Northern College ym Manceinion. Gradd gerddoriaeth gyda mwy o bwyslais ar ganu – 'grêt' meddwn. Yn ystod fy ail flwyddyn roeddwn yn tueddu at y sioe gerdd, ond yn fy nhrydedd flwyddyn mi gefais ganu repertoire opera yn iawn am y tro cyntaf, ac mi wnes i wirioneddol fwynhau.  Mae gweddill y stori yn hanes.  Dim rhyw dröedigaeth fawr na dim byd felly, fe ddigwyddodd a dyna ni.

Rydw i wedi tyfu i garu opera. Rydw i'n ei weld fel ffurf gelfyddydol sylfaenol i berfformiwr, yn cyfuno cerddoriaeth ysgubol, canu hardd a phwerus, cerddorfa lawn ac yn bwysicach na dim, straeon da.

Un o fanteision gyrfa lwyddiannus mewn opera yn aml yw'r cyfle i deithio, gweld y byd a pherfformio dramor. Er fod Elgan dal mewn addysg llawn amser, mae'n barod wedi cael blas o bethau i ddod, gan iddo fod yn Ffrainc, Hwngari, Groeg, Twrci ac, yn fwyaf diweddar, i China gyda'r coleg, mewn taith a drefnwyd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf a'r ail i berfformio golygfeydd opera ger bron cynulleidfa newydd yn Shanghai – profiad unwaith mewn oes!  

Mae Opera dal yn weddol newydd yn China, felly fe wnaethom ni lwyfannu amrywiaeth o olygfeydd o wahanol operâu.

Fe hedfanom ni allan i Shanghai ar ôl gorffen ein perfformiad olaf yn Llundain. Roedd ymarfer technegol yn y bore, ymarfer mewn gwisg yn y prynhawn a pherfformiad yn yr hwyr – doedden ni ddim yn hollol siŵr lle roedden ni! 

Roedd hanner y gynulleidfa dan ddeg oed. Yn China mae rhieni am i'w plant fod yn llai traddodiadol, ac i ymchwilio diwylliant y gorllewin. Roedd yna lawer o siarad pan oeddem yn perfformio, gyda'r rhieni yn esbonio i'r plant beth oedd yn digwydd. Roedd yn brofiad gwahanol ac yn agoriad llygaid.

Bydd Elgan hefyd teithio i Dde Ffrainc ym mis Awst i berfformio a chystadlu yn rownd derfynol y Les Azuriales Young Artists Masterclass & Competition.  Mae Les Azuriales Opera yn canolbwyntio ar ganfod artistiaid ifanc a thalent arbennig a gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w yrfa operatig cynnar. Trefnir nifer o ddosbarthiadau meistr yn ystod yr wythnos gyda chystadleuaeth ar y diwedd.

Mi fyddwn i gyd yn cystadlu yn erbyn ein gilydd am y gwobrau ariannol. Dwi'n meddwl mai fi ydy'r unig denor eleni, felly does dim cystadleuaeth 'uniongyrchol'! Mi fydd yn brofiad gwych ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr.

Lle mae'r tenor ifanc addawol yma yn gweld ei hun dros y pum mlynedd nesaf?

Mewn pum mlynedd mi hoffwn fod yn canu rhannau fel Nemorino yn L’Elisir D’Amore gan Donizetti neu Ernesto yn Don Pasquale  neu rannau gan  Mozart fel Ferrando yn Cosi Fan tutte.

O ran gweddill y  ‘wish-list’ , mi fyddwn wirioneddol yn hoffi canu rhan Tom Rakewell yn The Rake’s Progress, Stravinsky a hefyd mwy o weithiau gan Britten. Rydym yn gwneud  The Rape of Lucretia  yn y coleg flwyddyn nesaf, ac mi fyddaf yn chwarae rhan Male Chorus, ac rydw i'n edrych ymlaen at hynny.  Mi garwn i weithio yn Glyndebourne rhyw ddydd ac mi hoffem yn fawr i gael y cyfle i weithio yn yr Almaen.

Fy mreuddwyd fawr a nod tymor hir yw canu rhan Cavaradossi yng nghampwaith Puccini, Tosca yn y Metropolitan Opera  yn Efrog Newydd. Dydy o ddim y tenor claf-o-gariad traddodiadol, mae ganddo dipyn o glowt!

Yn y cyfamser mae Elgan yn parhau i weithio'n galed ar olygfeydd opera a chomisiynau newydd yn y Guildhall, yn ei ymdrech i baratoi'r ffordd i'r dyfodol a'r yrfa mae'n ei chwennych.

Dwi ddim yn cael lot o amser i mi fy hunan, ond mi wn i beth ydw i eisiau ac rydw i'n berffaith fodlon gweithio amdano!