News

Ar eich marciau...

28th June, 2015

Mae'r mezzo-soprano Sioned Terry yn mynd a’i chanu i'r byd chwaraeon

Ers gadael dysgu yn 2011, mae Sioned wedi creu gyrfa berfformio aeth a hi at gynulleidfaoedd sy’n amrywio o’r rhai sy’n hoffi cerddoriaeth yn gyffredinol i wleidyddion a’r teulu brenhinol.  Mae ei lleoliadau perfformio yr un mor amrywiol, o eglwysi cadeiriol i neuaddau cyngerdd, o theatrau i leoliadau chwaraeon

Mae’r amrywiaeth wedi cynnwys lansio digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol, rhyngwladol a’r Chymanwlad wrth ganu’r anthemau cenedlaethol yng Nghystadleuaeth Rhedeg Eithafol y Gymanwlad yn 2010, dechrau paratoadau Cwpan Byd Rygbi Cynghrair yn 2012 a’r llynedd perfformiodd o flaen cynulleidfa o filoedd o bobl yn Stadiwm Parc Eirias fel rhan o’r dathliadau’n arwain i fyny at y Gemau Olympaidd. Sut dechreuodd popeth? Cafodd Carys Davies, golygydd y Cylchlythyr sgwrs gyda Sioned.

Daeth y gwahoddiad cyntaf imi ganu mewn digwyddiad chwaraeon ar gefn cyngerdd wnes i yng Ngogledd Cymru. Roedd trefnwyr Digwyddiad Rhedeg Eithafol y Gymanwlad yn y gynulleidfa ac mae’n rhaid eu bod wedi mwynhau fy mherfformiad gan iddyn nhw fy ngwahodd i berfformio yn y Cyngerdd Agoriadol yn Venue Cymru yn Llandudno. Roedd yn brofiad arbennig i ganu’r Anthem Genedlaethol mewn digwyddiad mor bwysig.  Hefyd mi gefais gyfarfod rhedwyr o fri, oedd yn bonws!

Yn dilyn y profiad hwn, cafodd Sioned fwy o wahoddiadau i ganu mewn achlysuron tebyg.  Perfformiodd i’r arwyr tawel yn Ngwobrau Gofal Cymru, yn seremoni wobrwyo ‘Welsh Athletics Hall of Fame’ yn 2014 ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn canodd yr anthem wrth ddymuno’n dda i Dîm Cymru yn Gemau’r Gymanwlad mewn seremoni gyda Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Roedd hwn yn uchafbwynt personol i mi. Roedd y tîm cyfan wedi ymgynnull yn Stadiwm Swalec Caerdydd ar gyfer y seremoni swyddogol gyda’r Prif Weinidog. Roedd yn anrhydedd i gael canu’r anthem o flaen yr holl athletwyr ifanc dawnus ac uchelgeisiol yma – roedd yn hynod o emosiynol!

Ysbrydolwyd Sioned wrth gyfarfod cymaint o athletwyr i wella’i ffitrwydd ei hunan ac erbyn hyn daeth yn dipyn o athletwraig:

Dair blynedd yn ôl cefais gyfle i ganu'r Anthem Genedlaethol ar gychwyn ras Hanner Marathon Caerdydd ac mi benderfynaid os byddwn i'n cany y byddai'n beth da i mi redeg hefyd. Cefais fy ngwahodd yn ôl y flwyddyn ganlynol a gwneud yr un peth! Erbyn hyn mae'r dyddiad yn fy nghalendr ac eleni mi fyddaf yn rhedeg fy 4ydd Hannaer Marathon yng Nghaerdydd.

Mae Sioned hefyd wedi neilltuo llawer o’i hamser dros y blynyddoedd diwethaf i Ymgyrch Cerddwn Ymlaen, taith gerdded 200 milltir o’r De i’r Gogledd a drefnwyd gan y tenor Rhys Meirion i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru.

Rydw i wedi gweithio gyda Rhys nifer o weithiau, felly pan ofynnodd o imi gymryd rhan yn yr her, allwn i ddim gwrthod. Fe gawsom lot o hwyl yn ystod y daith, er mod i’n aml wedi gorfod twrio’n ddwfn i gael y cryfder meddwl i gario mlaen. Roedd hi weithiau’n teimlo’n ddi-ddiwedd, ond roedd yn brofiad bythgofiadwy serch hynny. Roedd yn brofiad wnaeth fy helpu i fyw yn iachach ac rydw i’n wirioneddol ddiolchgar am hynny.

Cyhoeddwyd record sengl ‘Cerddwn Gwalia’ i gefnogi gwaith yr elusen Cerddwn Ymlaen; cân a ysgrifennwyd, a gyfansoddwyd, a berfformiwyd ac a recordiwyd gan Sioned. Mae nawr yn barod am sialens newydd felly, yr haf yma, bydd yn wynebu mulod, kayak, beic tandem, trên stêm a thractor er mwyn Cronfa Elen wrth ymuno gyda Rhys Meirion unwaith eto o gwmpas Cymru – ar Her Cylchdaith Cymru i greu trafodaeth genedlaethol am roi organau.

Mi fyddwn yn teithio o gwmpas Cymru mewn parau ar wahanol drafnidiaeth annisgwyl, er mwyn dangos sut y gallwn ni gefnogi’n gilydd. Mi fydd yna nifer o gyngherddau ar y ffordd, yn ogystal â’r cyngerdd agoriadol yn Pafiliwn y Rhyl ar Orffennaf y 3ydd. Rydw i wir yn edrych ymlaen at y cyfan.

Bum yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r digwyddiadau yma ac rwyf mor ddiolchgar mod i’n gallu cadw’r corff yn iach wrth wneud hyn. Mae nhw wedi fy ysgogi i gadw’n heini, sy’n help mawr pan fydd angen cynnal y nodau a’r cymalau cerddorol hir sydd angen nerth a disgyblaeth i’w canu.

Felly, beth nesaf i Sioned?

Ar y 18fed o Orffennaf byddaf yn canu’r Anthem Genedlaethol yn y 40fed Ras Ryngwladol Tyn Lôn Volvo Eryri. Yn anffodus dydw i ddim yn ddigon ffit i’w rhedeg. Efallai’r tro nesaf!

Gallwch hefyd weld Sioned mewn cyngerdd yng Ngŵyl Gerddorol Conwy ar Orffennaf 23ain.