News

Dan Sylw

29th June, 2015

Pwy neu beth wnaeth eich denu gyntaf oll at gerddoriaeth?
Roedd y tŷ yn llawn o gerddoriaeth bob amser: Queen, ABBA, Simon and Garfunkel, ond mi ddechreuais i ganu yn eitha hwyr. Roeddwn yn aelod o'r grŵp amatur lleol ac un flwyddyn fe wnaethom ni sioe gerdd. Penderfynais gael gwersi canu i helpu i wella fy mherfformiad a dwlu arno fe. Rwy'n ddyledus iawn i'm hathrawes ganu gyntaf, Jayne Whittaker.

Oes rhywun arall yn y teulu yn canu?
Does neb yn y teulu yn canu cerddoriaeth glasurol nac wedi ystyried gyrfa gerddorol. Ond mae nhad yn canu mewn côr  barbershop ac roedd mam yn canu mewn grŵp pan oedd hi'n ifancach.

A'r gân gyntaf ichi ei chanu oedd..?
‘Mamma Mia’ gan ABBA. Rwy'n siŵr fod yna hwiangerddi hefyd ond dyna'r gân gyntaf rwy'n cofio imi ei chanu go iawn.

Pa gyfansoddwyr, byw neu farw, ydych chi'n eu hedmygu fwyaf a pham?
Dwi wrth fy modd gyda miwsig Puccini a Verdi. Mae eu cyfansoddi mor hardd, angerddol a lliwgar. Rwyf hefyd yn gweld Britten a Stravinsky yn hynod ddiddorol gan eu bod nhw mor fanwl a chlyfar wrth ddweud eu straeon o fewn y gerddoriaeth.

Pe gallech ddweud hanes eich bywyd mewn cerddoriaeth, pa ddarnau fyddech chi yn eu dewis a pham? 
‘Carnival of the Animals’ Saint-Saëns byddai’n cynrychioli’r dyddiau cynnar. Mae’n hwyliog a di-ofid. Wedyn mi ddeuthum yn fwy meddylgar, felly mi fyddai Debussy neu hyd yn oed y ‘New World Symphony’ gan Dvořák yn addas. Erbyn hyn dwi’n credu mai Stravinsky - ‘ The Rite of Spring’ – fyddai’n gweddu orau. Er, pan fydd pethau’n mynd yn dda, dwi’n meddwl y byddai rhywbeth gan Aaron Copeland yn ddewis da!

Pa ganeuon i godi embaras allem ni eu ffeindio ar eich MP3/iPod/Ffôn?
Ambell i gân S Club 7.

Beth sy’n dda ac yn ddrwg i chi am y diwydiant yma?
Mae’n hyfryd i weithio mewn diwydiant mor amrywiol. Rwyf mor ffodus i fod yn gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau a’i wneud gyda phobl ffab. Yn anffodus, mae Opera yn faes anodd ar hyn o bryd – mae’r gwaith yn brinnach nag y bu ac mae’r gystadleuaeth weithiau yn gallu gwneud rhywun yn rhwystredig.  Mae’r holl amser oddi cartref hefyd yn eitha heriol.

Beth i chi sy’n gwneud perfformiad perffaith? 
Stori afaelgar a pherfformiad lle rwy’n peidio dadansoddi’r cantorion a’r cynhyrchiad.

Sut byddwch chi’n ymdopi gyda chamgymeriadau yn ystod perfformiad?
Anaml iawn byddai’n cynhyrfu. Rwy’n cofio un foment mewn taith opera lle’r oedd popeth wedi mynd yn dda am tua 20 perfformiad ac yna, ynghanol y sioe, dyma’r gerddorfa yn cychwyn chwarae cyn cael ciw, ac fel boi bach proffesiynol, mi ddechreuais ganu gyda nhw tra bod gweddill y cast yn edrych arna i’n wirion! 

Pe gallech fod yn unrhyw gymeriad opera, pwy fyddai a pham?
Marcello o La Bohème. Boi normal sy’n mwynhau cwmni ei ffrindiau ac am gael y gorau i bawb.

Beth yw’r cyngor gorau gawsoch chi erioed?
Yr unig ffordd i oroesi yn y proffesiwn yma yw drwy ei fwynhau a chofio bod mwy i fywyd na bod dan bwysau cyson.

Beth sydd ar y gweill ar gyfer 2015/16?
Byddaf yn chwarae rhan Frédéric mewn perfformiad o Lakmé gydag Opera Holland Park fel rhan o gynllun 'Christine Collins Young Artists' ar Orffennaf 27. Mae’n gyfle gwych i fynd i mewn i’r rhan gyda chwmni proffesiynol. Yn Awst wedyn byddaf yn perfformio Escamillo gydag Opra Cymru ac yn yr hydref byddaf yn gweithio gyda Scottish Opera.

Sut ydych chi’n cadw pethau’n gytbwys rhwng opera a’ch cyfrifoldebau eraill?
Rwy’n ddyn rhestrau. Mae cerddoriaeth a chanu yn gymaint rhan ohonof, mi fyddaf bob amser yn ffeindio amser i hynny; dyw e ddim yn orchwyl diflas i’w ffitio i mewn. Mae fy ngwraig a minnau’n rhedeg Ysgol Berfformio yn y gorllewin (Dynamix Performing Arts School) ac mae’n gymaint o hwyl i weithio gyda’r genhedlaeth nesaf.

Pan fyddwch chi ddim yn canu, beth fyddwch chi’n mwynhau ei wneud? 
Rwy’n mwynhau coginio. Mi gefais beiriant gwneud pasta rai blynyddoedd yn ôl ac rwyf wedi bod yn arbrofi i greu gwahanol brydau pasta - o lasagne i carbonara. Mae Laura, fy ngwraig, yn pobi, felly rhyngom mi fedrwn baratoi pryd tri chwrs!

Beth oedd y cyngerdd diwethaf i chi fynd iddo, heb i chi fod yn cymryd rhan?
Roedd fy ngwraig yn perfformio yn y Cyngerdd Nadolig yn Rhosygilwen, Cilgerran.

Pe baech chi ddim yn canu, beth fyddech chi’n ei wneud nawr?
Mi fyddwn yn awdur. Mi sgrifennais gerddi a dramâu rai blynyddoedd yn ôl.

I orffen, rhannwch gyfrinach! Rhywbeth fyddai’n rhoi syrpreis i bobl.
Roeddwn i’n arfer chwarae criced ar lefel uchel cyn canolbwyntio ar berfformio.