News

Y Proms Cymreig

30th June, 2015

Bydd y soprano Angharad Morgan a'r tenor David Fortey yn perfformio yn 'A Night in Vienna' yn y Proms Cymreig, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar nos Wener Gorffennaf 24ain

Byddant yn ymuno â'r arweinydd Owain Arwel Hughes â cherddorfa'r Royal Liverpool Philharmonic am noson ysblennydd i ddathlu oes aur cerddoriaeth Vienna. Gallwch ddisgwyl waltsiau a polkas poblogaidd Johann Strauss ag hoff ariâu a deuawdau gan Franz Lehár gan gynnwys 'You Are My Heart's Delight' o The Land of Smiles, 'On My Lips Every Kiss is Like Wine' o'r sioe Giuditta a'r waltz hyfryd o The Merry Widow, 'Love Unspoken'. 

Mae Angharad a David yn artistiaid hynod o boblogaidd  - mae Angharad gyda'i llais soprano telynegol bendigedig newydd orffen canu rhan Marguerite yng nghynhyrchiad teithiol Opera Dinas Abertawe o Faust, tra bydd llawer yn adnabod David, a'i lais tenor telynegol, fel un o aelodau Only Men Aloud.

"Mae'n gwireddu breuddwyd i mi" meddai Angharad. "Rwyf wedi tyfu i fyny gyda'r Proms Cymreig. Pan oeddwn i'n blentyn roeddwn i'n cael mynd i un cyngerdd yn y Proms bob blwyddyn a heddiw rwy'n ystyried y Proms Cymreig yn uchafbwynt yn y calendr cerddorol." A sut mae ei hanner arall, David Fortey yn teimlo am berfformio yn y Proms Cymreig?

"Mae'n fraint i gael bod yn rhan o'r rhaglen eleni, yn enwedig gan fod y Proms Cymreig yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed. Byddaf nid yn unig yn perfformio fel unawdydd am y tro cyntaf yn y Proms Cymreig, ond dyma'r tro cyntaf imi fod yn unawdydd ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, sy'n anrhydedd ynddo'i hunan, ac mi fydd rhannu'r llwyfan gyda fy ngwraig yn ei wneud yn arbennig iawn," 

Mae 'A Night in Vienna' yn addo i fod yn noson llawn steil, gyda cherddoriaeth hudolus fydd yn codi chwant arnoch i ddawnsio drwy'r nos. 

Mae Angharad a David hefyd yn canu gyda'i gilydd mewn deuawd dan yr enw Cantare. Fe wnaethon nhw ddechrau canu gyda'i gilydd yn 2001 pan oedden nhw'n fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel perfformwyr maen nhw'n hyblyg ac amrywiol, yn cynnig cyfuniad unigryw o gerddoriaeth o fyd opera i sioeau cerdd sy'n rhoi rhywbeth at ddant pawb. Ar ben cyffro'r Proms Cymreig, bydd Angharad a David yn llwyfannu pedwar cyngerdd disglair yn ystod mis Awst gyda'r rhaglen arbennig, 'Cantare at the Musicals' dan gyfeiliant Ryan Wood. 

"Gwnaethom 'A Night at the Opera' y llynedd, felly'r cam naturiol i ni eleni oedd datblygu rhaglen yn seiliedig ar sioeau cerdd. Rydym wedi dewis rhaglen gyffrous o ganeuon cyfarwydd â rhai sy'n llai cyfarwydd" esboniodd Angharad. 

Dywed David "ei fod yn wych i groesi dros wahanol arddulliau cerddorol a pherfformio caneuon cyfarwydd, a hwyliog ac, yn fwy na dim, rhoi pleser i garedigion cerddoriaeth o bob oed." Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl gan Cantare yr haf hwn?

"Mae gennym gerddoriaeth gan Lerner a Loewe, Rodgers a Hammerstein, Cole Porter, Gershwin, Sondheim a'r hyfryd Stephen Swartz. Mae yna rhywbeth i bawb!"

Gallwch weld Cantare yng Nghanolfan Vanguard Caerffili ar Awst y 1af, Eglwys yr All Saints yn Abertawe ar Awst y 7fed, Neuadd Gambier Parry, Caerloyw ar Awst 8fed ac Eglwys yr All Saints ym Mhorthcawl ar Awst 29ain. 

Dyma i haf hirfelyn tesog o gerddoriaeth!