News

Franz Schubert Institut

5th August, 2015

Bydd y cyfeilydd Eugene Asti yn mynychu’r Franz Schubert Institut yn Baden Wei Wien yn Awstria fel athro gwadd rhwng y 7fed a’r 9fed o Fis Awst.

Sefydlwyd y cwrs meistr ym 1978 gyda’r pwrpas o hyrwyddo a meithrin crefft y Lied Almaeneg. Mae’r sefydliad yn noddi cwrs pum wythnos gyda dehonglwyr blaenllaw’r repertoire Lied yn flynyddol, ac erbyn heddiw ystyrir fel y gorau o’i fath. Bydd Eugene yn ymuno â grŵp nodedig o athrawon, gan gynnwys Elly Ameling, Rudolf Jansen, Robert Holl, Werner Güra, Julius Drake, Helmut Deutsch ac Andreas Schmidt.