News

Les Azuriales Opera!

2nd September, 2015

Enillodd y tenor Cymreig Elgan Llŷr Thomas Gwobr Kerry-Keane o'r nodedig Les Azuriales Opera ar y 29ain o Awst. 

Yn ogystal â'r brif wobr enillodd Elgan Wobr y Gynulleidfa, a noddwyd gan Richard a Ginny Salter am ei berfformiad a oedd yn cynnwys Nacht und Träume gan Franz Schubert ac Una furtiva lagrima o'r opera Eidalaidd L'elisir d'amore gan Gaetano Donizetti.

"Mae cymryd rhan yng Ngŵyl Opera Les Azuriales wedi bod yn brofiad gwych a bu ennill y gwobrau hyn yn fonws ac yn fraint."

"Byddaf yn cofio'r gwersi a ddysgais yno am byth, ac rwy'n gwybod y bydd eu cefnogaeth yn fy helpu i gyrraedd y cam nesaf yn fy ngyrfa."

Bydd Elgan yn perfformio rhan Count Almaviva yn The Barber of Seville yng Ngŵyl Ryngwladol Mananan mis yma. Fe fydd wedyn yn dychwelyd i Lundain i ddechrau ei flwyddyn olaf ar gwrs opera enwog y Guildhall School of Music and Drama. 

Bydd Elgan hefyd yn perfformio rhannau Florindo yn Le donne curiose, Wolf-Ferrari a Male Chorus yn The Rape of Lucretia gyda'r Guildhall School of Music and Drama y tymor hwn.