News

Premiere Byd

3rd September, 2015

Bydd y gyn delynores Frenhinol, Hannah Stone yn perfformio fel artist gwadd gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC yng Ngŵyl Ryngwladol Gogledd Cymru, Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar ddydd Sadwrn Medi 26ain am 19:30.
Mewn rhaglen llawn egni a goleuni bydd Hannah a'r gerddorfa yn perfformio première byd 'Amaterasu' gan Gareth Glyn, comisiwn newydd ar gyfer telyn a cherddorfa a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a 'Danses sacrée et profane' gan Debussy. Bydd y cyngerdd yn cael ei recordio'n fyw ar gyfer ei ddarlledu ar BBC Radio 3 yn y dyfodol. 

Bydd Hannah yn dychwelyd i Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar ddydd Llun Medi 28ain i gyflwyno datganiad ar y delyn fel rhan o'r Ŵyl gyda rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Scarlatti, Debussy, Renié, Caplet, Salzedo a Mathias.