News

Cyngerdd Pen-blwydd

31st October, 2015

Ar Hydref 20fed, dathlodd Bryn Terfel ei ben-blwydd yn 50 oed gyda chyngerdd mawreddog yn y Royal Albert Hall, un o'r nifer o leoliadau lle mae Bryn wedi perfformio'n fuddugoliaethus dros y blynyddoedd. 

Asgwrn cefn y cyngerdd hynod o amrywiol hwn oedd Sinfonia Cymru dan arweiniad Gareth Jones, ac roedd y cerddorion yma'n rhyfeddol gyda'i hamrywiaeth arddull, genres, naws ac awyrgylch o'r Polonaise o Eugene Onegin, Tchaikovsky a darnau ysgubol o sioeau'r West End i faledi clasurol poblogaidd. 

Roedd y perfformwyr a oedd yn canu neu'n chwarae gyda Bryn yn bennaf o Gymru: Only Men Aloud, cyn telynoresau brenhinol Catrin Finch a Hannah Stone, y soprano Rebecca Evans, Daniel Evans, John Owen Jones, y grŵp gwerin Calan, a chyflwynydd y noson oedd y seren Hollywood o Gasnewydd, Michael Sheen. 

Roedd y perfformwyr eraill yn cynnwys  y chwaraewr acordion o Latvia Ksenija Sidorova a'i chydwladwr, y tenor Aleksandr Antonenko, y soprano Danielle de Niese, y trympedwraig Alison Balsom, Hannah Waddingham, cyfeilydd Bryn dros y blynyddoedd Malcolm Martineau a Sting - cyn unawdydd y grŵp 'Police'.


Gan Mike Smith
Darllenwch mwy yma: http://www.asiw.co.uk/bryn-terfel-50-royal-albert-hall/