News

Cyhoeddiad Harlequin

24th May, 2016

Wedi 30 mlynedd nodedig yn y maes rheoli artistiaid, bydd Doreen O'Neill yn ymddeol o'i swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Asiantaeth Harlequin ar Fehefin 30ain.

Sefydlodd Doreen asiantaeth Harlequin o bwrdd ei chegin gartref yn 1986 gyda'r bwriad o feithrin a datblygu talentau ifanc Cymreig. Ers hynny, mae llaw Doreen wedi tywys llawer o gantorion, arweinyddion ac offerynwyr talentog ac wedi sefydlu Harlequin fel asiantaeth uchel ei pharch yng Nghymru a thu hwnt.

Yn yr un flwyddyn a sefydlu Harlequin, arwyddodd Doreen y bas-bariton Bryn Terfel ac mae wedi ei dywys ar ei yrfa ers hynny - gwasanaeth amhrisiadwy i gefnogi un o brif ser opera'r byd. 

Mae'r byd opera a cherddoriaeth glasurol yn adnabod Doreen fel person tawel ac effeithiol gydag agwedd ymarferol bob amser wrth ofalu am yrfaoedd ei hartistiaid. Bydd ei gwybodaeth a'i phrofiad yn golled fawr. 

Bydd Matthew Todd yn ymuno a Harlequin. Yn gysylltiedig a Harlequin am gyfnod hir; dechreuodd Matthew ei yrfa yn 1998 gyda IMG Artists cyn symud at y London Philharmonic Orchestra ac yna dychwelyd i IMG Artists yn 2010 i weithio ar y busnes gwyliau cerdd. Ers 2014 bu Matthew yn rhedeg ei gwmni ei hun yn cynhyrchu cyngherddau, yn cynnwys gala Bryn Terfel yn 50 yn y Royal Albert Hall yn Hydref 2015. 

Dywedodd Doreen "Mae'n syndod i feddwl, ddeng mlynedd ar hugain yn ol doedd yna ddim ffonau symudol, gliniaduron, ffacsys nag e-bost ac roedd pob cyfathrebu trwy lythyrau, galwadau ffon a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae wedi bod yn siwrnai ardderchog, rwyf wedi gweld y byd, clywed cantorion gorau'r byd, a chael y fraint o helpu talentau mawr i flodeuo mewn gyrfaoedd rhyngwladol. Rwy'n hyderus y bydd Matthew a'r tim yn mynd a Harlequin ymlaen i ddyfodol llwyddiannus."

Bydd Doreen a Matthew yn gweithio ochr yn ochr tan ddiwedd Mehefin ac wedyn bydd Matthew yn parhau i weithio gyda thim Harlequin: Rhian Williams, Sioned Jones, Lynne Jones a Carys Davies i barhau i reoli rhestr artistiaid Harlequin.

matthew.todd@harlequin-agency.co.uk
sioned@harlequin-agency.co.uk
lynne@harlequin-agency.co.uk
carys.davies@harlequin-agency.co.uk
Mae Rhian Williams ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd.

Ymunwch gyda ni i ddymuno ymddeoliad llawen iawn i Doreen ac i ddiolch iddi am ei chyfraniad aruthrol i'r busnes cerddoriaeth dros y 30 mlynedd diwethaf.
doreen@harlequin-agency.co.uk