News

30 mlynedd cyntaf Harlequin

27th June, 2016

Gall cychwyn busnes 165 o filltiroedd o lle roedd y lleill i gyd cael ei ystyried fel tipyn o risg, ond dyna sut y dechreuodd Harlequin yn haf 1986.

Roedd gan y llywodraeth gynllun a oedd yn rhoi grant misol i gychwyn menter newydd. Rhwng hynny a help ariannol caredig gan Dennis, roedd gen i ddigon i gychwyn arni. Ffurfiais bartneriaeth gyda Liz Deakin (a oedd yn gweithio gyda fy ngŵr Peter) a mynd amdani. Fe wnaethom ni benderfynu y bydde ni’n gweithio ar draws nifer o bethau gwahanol a dyna pam dewiswyd yr enw Harlequin – wyneb a llawer o nodweddion. Ar y pryd byddai cwmnïau yn cymryd enw’r perchennog, ond roeddem am fod yn wahanol. Roedd Harlequin hefyd yn enw rhyngwladol. Roedden ni’n cynnig gwasanaeth rheoli i gantorion ac offerynwyr, darparu cerddoriaeth i gorau ac yn gwneud y cyhoeddusrwydd i Wyliau er mwyn gweld beth fyddi’n gweithio orau. 

Nawr, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’r busnes wedi tyfu a datblygu tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad neu weledigaeth a oedd gan Doreen ar y cychwyn. Wrth ddechrau o ddim roedd yn amlwg na fyddai cantorion profiadol yn ciwio tu allan i’r swyddfa i ymuno gydag asiantaeth ddi-brofiad. Teimlai Doreen mai’r ffordd ymlaen oedd denu cantorion tra roedden nhw’n dal yn astudio a defnyddio’i phrofiad ei hun i’w tywys a datblygu eu gyrfa. Roedd hwn yn bolisi hir dymor doeth a daeth llwyddiant yn gynt na’r disgwyl.

Mae angen dipyn o lwc, drws annisgwyl i agor neu syniad neu gynnyrch unigryw i ddatblygu unrhyw gwmni newydd. Daeth lwc dda i Harlequin ar ddiwrnod glawog mewn cae mwdlyd yn Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Dyna pryd clywodd Doreen y Bryn Terfel ifanc yn canu am y tro cyntaf.

Roeddwn yn arfer dysgu cantorion ifanc ym Mhontarddulais ac roedden nhw i gyd yn siarad am fachgen o’r enw Bryn Terfel – roedd ei enw ym mhobman.  Llwyddais i’w glywed yn y rhagbrofion ym Mhorthmadog ac mi wyddwn yn syth ei fod yn sbesial. 

Roeddwn ar ganol trefnu cyflwyniad o dalent newydd yng Nghaerdydd felly mi anfonais wahoddiad i Bryn.  Mi gafodd nifer o ymrwymiadau ar ei gefn a thyfodd y berthynas o hynny. Rydym wedi tyfu lan gyda’n gilydd.

Does dim llawer yn gwybod fod Bryn wedi glanhau fy nghegin un tro. Daeth i aros gyda mi pan oedd y ddau ohonom yn gwneud y Messiah gyda’n gilydd yn Neuadd Dewi Sant.  Rhwng y dysgu a datblygu’r asiantaeth roeddwn i’n brysur iawn ac, yn anffodus, pan gyrhaeddodd Bryn allen i ddim cynnig paned o de iddo gan i mi anghofio prynnu llaeth. Mi es i allan i brynu peth ac erbyn i mi gyrraedd yn ôl roedd Bryn wedi glanhau’r hob!  

Gwelodd y bartneriaeth hon ddatblygiad rhyfeddol yn ngyrfa Bryn ac ym musnes Harlequin. Yn 2012, pan benderfynodd Doreen werthu’r cwmni, daeth Bryn yn gyd-berchennog gyda’r cwmni cynhyrchu annibynnol, Boom Cymru ac yn 2013 sefydlwyd  Harlequin Media, adran ddarlledu’r asiantaeth.  Mae’r rhaglenni hyd yn hyn yn cynnwys Nadolig Bryn Terfel (2013 & 2014), Only Men Aloud: Y Bechgyn a Y Sioe a Chyngerdd Gala Gŵyl Dewi 2015 Gyda Bryn Terfel a  Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol y BBC a ddarlledwyd ar S4C. 

Tu ôl y llenni: Pwy yw pwy

Ymunodd Peter Tansom â'r cwmni yn 1992 fel gweinyddwr, yn arbenigo ar y bas data a hyrwyddo. Wedi blynyddoedd o waith 'di-dâl', penderfynodd Doreen briodi Peter yn Ionawr 1999. Rhoddodd Peter 22 flynedd i Harlequin cyn ymddeol yn Mehefin 2014.

Yn wreiddiol o Aberfan, graddiodd Eryl Phillips o Brifysgol Colchester. Daeth yn gynorthwy-ydd personol i Doreen yn 1994 ond gadawodd yn 1999 i ddilyn gyrfa mewn addysg.

Roedd Colin Ure yn rheolwr artistiaid yn Llundain cyn ymuno â Harlequin fel ail reolwr artistiaid yn 1994. Chwaraeodd Colin ran allweddol ym mlynyddoedd ffurfiannol y cwmni.  

Daeth Matt Broom i gymryd lle Colin fel rheolwr artistiaid yn Hydref 2005. Dechreuodd ei yrfa gyda  Ron Gonsalves Management ac wedyn gweithiodd i BMG Records, Glyndebourne Productions, Garsington Opera a'r Opera Theatre Company yn Nulyn. Yn 2006 dychwelodd Matt i Opera Cenedlaethol Cymru.

Ymunodd Sioned Jones â Harlequin yn Awst 1999, ar y cychwyn fel cynorthwy-ydd i Doreen ac yn gweithio ar Ŵyl y Faenol, Bryn Terfel. Wedyn daeth yn Rheolwr Artistiaid Cynorthwyol, yn cefnogi Doreen yn llawnach gyda'i rhestr artistiaid. Dyrchafwyd hi yn 2012 yn Rheolwr Artistiaid gan ganolbwyntio ar feithrin talentau'r dyfodol.

Dechreuodd Lynne Jones gyda Harlequin yn Chwefror 2001 fel clerc swyddfa. Yn ystod ei hamser gyda Harlequin mae wedi bod yn gefn i Doreen a'r rheolwyr artistiaid eraill yn gweithio ar bob agwedd o'r asiantaeth.  Mae Lynne bellach yn gweithio ar ochr ariannol a chytundebol y cwmni.

Ymunodd Rhian Williams yn 2012 fel rheolwr artistiaid. Yn 2013 sefydlodd a daeth yn uwch gynhyrchydd Harlequin Media, adran ddarlledu'r asiantaeth. Mae Rhian ar hyn o bryd ar gyfnod mamolaeth a bydd yn dychwelyd yn gynnar yn 2017.

Daeth Carys Davies i Harlequin yn Hydref 2014 fel cynorthwy-ydd gweinyddol a daeth i gymryd mwy o gyfrifoldeb yn ochr gyfathrebu’r busnes. Mae Carys nawr yn rheoli marchnata a rhwydweithio cymdeithasol y cwmni yn ogystal â golygu'r cylchlythyr.

Ymunodd Matthew Todd ym Mai 2016. Yn gysylltiedig a Harlequin am gyfnod hir; dechreuodd Matthew ei yrfa yn 1998 gyda IMG Artists cyn symud at y London Philharmonic Orchestra ac yna dychwelyd i IMG Artists yn 2010 i weithio ar y busnes gwyliau cerdd. Ers 2014 bu Matthew yn rhedeg ei gwmni ei hun yn cynhyrchu cyngherddau, yn cynnwys gala Bryn Terfel yn 50 yn y Royal Albert Hall yn Hydref 2015.

Bydd Matthew yn gweithio gyda tîm Harlequin: Rhian, Sioned, Lynne a Carys i barhau gyda rheolaeth rhestr artistiaid Harlequin. 

Hip! Hip! Hwre! I Doreen

Daeth Doreen a gwybodaeth ddofn a phrofiad oes o'r diwydiant i'r busnes - rhywbeth y byddwn yn ei golli'n fawr. Roedd hi’n asiant, rheolwraig a hyfforddwraig - i gyd yn un - ac mae pawb yn Harlequin wedi troi ati am gyngor a chefnogaeth.

Bu'n siwrnai fendigedig; dwi wedi gweld y byd, clywed y cantorion gorau yn y byd a chael y fraint o helpu talentau mawr i flodeuo i yrfaoedd rhyngwladol. Mae gen i bob hyder y bydd Matthew a'r tîm yn mynd a Harlequin ymlaen i fwy o lwyddiant. 

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl doedd yna ddim ffonau symudol, dim gliniaduron, ffacsys, e-bost ac roedd pob cyfathrebu drwy lythyr, sgyrsiau ffôn neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb.  

Beth am y deng mlynedd ar hugain nesaf?  Gobeithio bydd y cwmni yn mynd o nerth i nerth. Mae'r byd wedi newid cymaint ers i mi sefydlu Harlequin ar ford y gegin yn Splott. Mae'n bryd ail-sgwennu'r fformiwla a datblygu'r cwmni ymhellach. Mae gen i bob hyder y bydd y tîm yn llwyddo yn eu hymdrechion. Mi dries i amryw bethau ar y cychwyn, falle ei bod yn bryd treial rhywbeth newydd eto.

Diolch i Doreen am ei chyfraniad enfawr i'r busnes cerddoriaeth dros y 30 mlynedd diwethaf a dymunwn iddi ymddeoliad rhyfeddol o hapus