News

Doreen O’Neill: Yr Uchafbwyntiau

26th June, 2016

Gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o atgofion, beth yw uchafbwyntiau Doreen?

Y prif uchafbwynt yw cefnogaeth barhaus Bryn Terfel i’r asiantaeth, sydd wedi tyfu ochr yn ochr â’i yrfa ef. Rwyf mor ddiolchgar na wnaeth adael am asiantaeth fawr yn Llundain. Mae teyrngarwch yn bwysig i Bryn ac rwy’n gwybod ei fod yn falch fod yna asiantaeth lewyrchus yng Nghymru.  

Yn y blynyddoedd cyntaf, syniadau uchelgeisiol oedd y norm yn Harlequin. Yn 1995, cyflwynodd Harlequin ‘Wales Week’, cyfres o ddatganiadau a chyngherddau gan rhai o gantorion ifanc gorau’r Wlad yn y Wigmore Hall yn Llundain. Yn sicr o werth y prosiect fe wnaeth Harlequin logi’r neuadd cyfan am yr wythnos.  Darparodd yr wythnos amrywiaeth diddorol o repertoire o gerddoriaeth ganol oesol i gyfansoddiadau cyfoes ac er mai ‘Welsh Week’ oedd y teitl , roedd y rhaglenni yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr o Ewrop ac America. Roedd yr artistiaid yn cynnwys Jeremy Huw Williams, Elinor Bennett, Rebecca Evans, Neal Davies, Wyn Davies, Gwyn Hughes Jones, Leah-Marian Jones, Bryn Terfel a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd gallu Harlequin i gyflwyno cantorion o’r safon uchaf o Gymru yn destament ynddo’i hun o ba mor bell yr oedd yr Asiantaeth wedi datblygu dros y deng mlynedd gyntaf.

Rwy’n falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym yn ‘Wales Week’. Fe wnaethom ni droi Wigmore Hall yn gornel fach o Gymru.  Dyma'r tro cyntaf hefyd iddyn nhw adael y teledu i mewn i'r neuadd.

Mae yna lawer o uchafbwyntiau dros y blynyddoedd, ond y nod wrth gychwyn yr asiantaeth oedd canfod talentau  ifanc a'u gweld yn tyfu ac yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Rwyf wrth fy modd pan fyddaf yn eistedd mewn neuadd lawn neu dy opera yn gwrando ar gymeradwyaeth i gantorion y bûm i'n eu meithrin ar eu taith. Dyna'r buzz. Mae'n gwneud i mi deimlo mor falch.

Uchafbwynt diweddar oedd gwrando ar Gwyn Hughes Jones yng nghynhyrchiad pen-blwydd 30 Opera Cenedlaethol Cymru o Cavalleria Rusticana a Pagliacci a chofio sut y dechreuodd ei daith.  Roedd yn dangos talent fawr pan oedd yn ifanc - yn dechnegol fedrus ac yn cyfathrebu'n dda gyda'i gynulleidfa. Roedd yn enw cyfarwydd mewn eisteddfodau a neidiodd ei yrfa ymlaen pan enillodd Wobr Goffa Kathleen Ferrier yn 1992.

Ymunodd Gwyn â'r asiantaeth fel bariton ifanc yn astudio yn y Guildhall School of Music yn Llundain ac erbyn heddiw mae’n denor sy’n perfformio ar lwyfannau mwyaf y byd. Yn gwneud ei début gyda’r  cwmni yn yr un cynhyrchiad roedd Trystan Llŷr Griffiths – allen i ddim peidio meddwl, ymhen ugain mlynedd gallai Trystan fod yn sefyll lle'r oedd Gwyn ac y byddai Sioned, sydd dim ond wedi gweithio i Harlequin, yn ei dywys.