News

Début English National Opera

30th September, 2016

Bydd y bas-bariton o Wlad yr Iâ, Andri Björn Róbertsson yn gwneud ei debut gyda English National Opera'r tymor hwn yn perfformio rôl Angelotti yn stori chwant, cariad, llofruddiaeth a dirgelwch gwleidyddol Puccini, Tosca. 

Ar ôl cwblhau cwrs ôl-radd a chwrs opera yn y Royal Academy of Music, Llundain, ymunodd Andri â'r National Opera Studio yn Llundain ym mis Medi 2013. Bu'n aelod o'r International Opera Studio yn Zürich, Swistir yn ystod tymor 2014/15 ac enillodd Lawryf 2014 HSBC gan Ŵyl d'Aix-en-Provence. Y tymor hwn mae Andri yn ymuno â'r English National Opera fel Harewood Artist.

Mae'r cynhyrchiad cyfoethog yma o Tosca yn agor yn y Coliseum, Llundain ar nos Lun y 3ydd o Hydref am 19:30. Mae perfformiadau eraill yn cynnwys:

Sad 08 Hydref. 18:30
Mer 12 Hydref. 19:30
Gwe 14 Hydref. 19:30
Iau 20 Hydref. 19:30
Sad 22 Hydref. 15:00
Maw 25 Hydref. 19:30
Maw 22 Tachwedd. 19:30
Iau 24 Tachwedd. 19:30
Sad 26 Tachwedd. 15:00
Maw 29 Tachwedd. 19:30
Iau 01 Rhagfyr. 19:30
Sad 03 Rhagfyr. 18:30