News

Dod i Nabod...

15th December, 2016

Magwyd y bas-bariton Andri Björn Róbertsson, 27, yn Reykjavík, Gwlad yr Iâ. Cafodd ei enwebu fel ‘Brightest Hope in Classical Music’ yn Ngwobrau Cerddorol Gwlad yr Iâ yn 2013 ac ymunodd â’r enwog Harewood Artists yn yr English National Opera y tymor hwn. Rhoddodd Andri ei berfformiad cyntaf gyda’r cwmni yn fis Hydref fel Angelotti yn Tosca.

Wedi cwblhau cwrs ôl-radd a chwrs opera yn Academi Cerdd Frenhinol Llundain, ymunodd gyda’r National Opera Studio fel hyfforddai ym Medi 2013. Roedd yn aelod o’r International Opera Studio yn Zürich, Y Swistir ar gyfer tymor 2014/15 a derbyniodd Lawryf Academi HSBC 2014 yn y Festival d’Aix-en-Provence.

Does neb yn y teulu yn arbennig o gerddorol, ond rydym i gyd yn caru cerddoriaeth a chelfyddyd. Roedd gen i lawer i hobi wrth dyfu lan; roeddwn yn chwarae’r clarinet, canu mewn corau, chwarae pêl law a phêl droed, athletau a dawnsio “ballroom”. Dechreuais ganu mewn côr pan oeddwn yn bump oed, dechrau gwersi canu preifat yn naw oed, ac astudio yng Ngwlad yr Iâ nes imi symud i Lundain yn 21ain oed. Ers hynny mae canu wedi mynd a mi i lawer o fannau diddorol a chwrddais â chymaint o bobl ryfeddol, yn fwyaf pwysig fy ngwraig, Ruth Jenkins-Róbertsson, a gwrddais pan oeddwn yn astudio yn Yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Rydym bellach yn byw yn agos at yr arfordir yng ngogledd ddwyrain Lloegr, mewn tref bach hyfryd o’r enw Whitley Bay.

Fe gefais gymaint o ddylanwadau ar fy mywyd dros y blynyddoedd. Fy rhieni, wnaeth fy nghefnogi o’r cychwyn. Fy nghôr-feistr a’m hathro canu, Jón Stefánsson ac Ólöf Kolbrún Harðardóttir, a ddysgodd imi bron bopeth a wn am gerddoriaeth. Kiri Te Kanawa ddaeth a fi i’r Solti Te Kanawa Accademia yn yr Eidal pan oeddwn 20 oed.  Yno y clywodd rhai o’r Academi Frenhinol fi’n canu a chynnig lle imi astudio yno.  Mae Kiri Te Kanawa wedi bod yn fentor arbennig imi yn gerddorol ac o fewn y busnes. Yr un sydd wedi dylanwadu fwyaf a bwysicaf oll yw fy ngwraig Ruth, sydd wedi fy nghefnogi’n aruthrol.

Roedd yn deimlad rhyfeddol ac yn y foment o falchder pan genais gyntaf gyda’r ENO; rwyf mor ddiolchgar i’r holl bobl sydd wedi credu ac ymddiried ynof a’m helpu i gyrraedd lle’r ydw i. Mae canu yn adeilad Godidog Y Coliseum yn Llundain gyda chorws a cherddorfa anhygoel yr ENO a chydweithwyr arbennig yn bopeth a freuddwydiais amdano a mwy. Dyma’r opera verismo gyntaf imi ganu ynddi ac mae’n un o’m ffefrynnau. Felly, pan gefais wahoddiad i ganu rhan Angelotti, roeddwn wrth fy modd. Mi fwynheais yr ymarfer dan arweiniad Maestro Oleg Caetani a’r cyfarwyddwr diwygio,  Donna Stirrup. Roedden nhw mor gynhaliol, croesawgar ac yn fy ysbrydoli fel aelodau eraill y cast.  Dysgais gymaint wrth wylio fy nghydweithwyr talentog yn gweithio a pherfformio.

Wedi cwblhau Tosca, byddaf yn perfformio rhan Ceprano yn Rigoletto, unwaith eto gyda’r English National Opera. Dyma’r tro cyntaf imi ganu rhan mewn opera gan Verdi, felly mae hynny ynddo’i hun yn gyffrous iawn, yn enwedig am fod y cynhyrchiad hwn mor eiconig.  Mae fy rhan i fel Ceprano yn golygu gweithio cryn dipyn gyda chorws yr ENO ac rwy’n edrych ymlaen i ddod i’w nabod yn well gan nad oeddem yn rhannu’r llwyfan o gwbl yn Tosca. Bydd hefyd yn golygu mwy o amser gyda’r ENO, lle rwyf wir yn mwynhau’r awyrgylch gyfeillgar!

Yn ystod Haf 2017 byddaf yn perfformio fy natganiad o Aix en Provence, ‘Of Love and Death’ yn L’Opéra de Lille gyda’r pianydd Edwige Herchenroder. Rwy’n mynd i Foscow yn Ebrill am fwy o berfformiadau o Trauernacht – perfformiad llwyfan yn seiliedig ar Gantata Cysegredig J. S. Bach. Mae digon o bethau ar y gweill, fel fy mherfformiad cyntaf yn Nhŷ Opera Brenhinol, Covent Garden mewn opera newydd gan George Benjamin.

Cwestiynau sydyn:

Fy hoff fath o fiwsig i wrando arno yw... clasurol a Lieder yn arbennig. Ond mi fyddaf yn hoffi gwrando ar fiwsig pop o’r 60au, 70au, a’r 80au cynnar a jazz, yn enwedig piano.

Pan na fyddaf yn canu rwy’n… treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Rwyf wrth fy modd yn coginio, casglu llyfrau, chwaraeon (pêl droed yn arbennig) a gwylio ffilmiau.  Hefyd, gan inni brynu’n tŷ cyntaf, dwi’n mwynhau DIY a garddio!

Y cyngerdd diwethaf imi fod ynddo oedd… cyngerdd o waith Bach gan Gerddorfa Baroc Zurich, dan arweiniad  Laurence Cummings yn Nhŷ Opera Zurich.

Fy nhair rheol mewn bywyd yw… a) Buddsoddi amser gyda theulu a ffrindiau – chi byth yn gwybod faint o amser fyddan nhw gyda chi; b) Credwch yn eich hunan bob amser – os na wnewch chi, fydd neb arall yn gwneud; c) Peidiwch byth a chynilo gyda ‘sgidie!

Y cyngor gorau dderbyniais hyd yn hyn yw mae mwy i fywyd na cherddoriaeth. Er mwyn gwella fy nealltwriaeth o gerddoriaeth, rhaid imi fwynhau popeth sydd gan fywyd i’w gynnig. Rhaid canfod y cydbwysedd perffaith mewn bywyd. Geiriau doeth gan fy hen athro canu!

Rwy’n rhoi cydbwysedd yn fy mywyd drwy… fod yn drefnus iawn. Pan fyddaf i ffwrdd yn canu, rwy’n gwneud llawer o waith – trefnu cyffredinol a pharatoi cerddorol – felly pan fyddaf gartref fydda i ddim yn teimlo pwysau i dreulio pob munud yn gweithio. Dyw e ddim yn gweithio bob tro, wrth gwrs. Mae’n help i gael pobl sy’n deall o gwmpas. Rwyf ar fy ngorau pan fyddaf wedi cael gwyliau da o ganu ac wedi bod yn ymarfer corff neu goginio. Mae’r rhain yn clirio’r meddwl a phan ddychwelaf i’m gwaith, rwy’n canolbwyntio’n well.

Pe bawn i’n gymeriad opera mi fydden i yn… Figaro. Mae’n naturiol, clyfar, gwrywaidd, ac ychydig yn ddiniwed.

Rwyf wedi aberthu er mwyn fy nghelfyddyd... gweld fy ngwraig, teulu a chyfeillion.

Ystyr y gair ‘llwyddiant’ yw… cyrraedd eich nodau mewn bywyd, waeth pa mor fach neu fawr. Llwyddiant yw bod yn fodlon gyda chi eich hunan, beth chi’n wneud a lle chi wedi cyrraedd.

Byddech yn synnu clywed... er fy mod o Wlad yr Iâ, rwy’n casau’r oerfel. Mae tai yng Ngwlad yr Iâ wedi eu twymo gan egni geothermal, felly rydym yn tueddu i ddefnyddio’r gwres drwy gydol y flwyddyn ac os ydym yn teimlo’n rhy boeth, rydym yn agor y ffenest yn hytrach na throi’r gwres i ffwrdd! Mae gen i dueddiad i wneud hyn o hyd.