News

Anrhydedd i Bryn Terfel

31st December, 2016

Llongyfarchiadau wrth bawb yn Harlequin i Bryn Terfel wrth iddo gael ei wneud yn farchog am ei wasanaeth i gerddoriaeth yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Bryn wrth Classic FM: "Anfonwyd llythyr at fy asiant yng Nghaerdydd ryw fis yn ôl a meddyliais mai tocynnau i'r rygbi ydoedd. Roeddwn yn hollol fud pan agorais yr amlen - cyflymodd fy nghyfradd calon, aeth fy ngheg yn hollol sych. Am anrhydedd. Derbyniais y CBE yn 2003, Medal y Frenhines am gerddoriaeth yn 2006 a nawr hyn, heb os nac oni bai, yn goron ar y cyfan. Rhaid cymryd cam yn ôl i feddwl sut mae pethau wedi gweithio allan i'r mab fferm o Ogledd Cymru."

Mae'r wobr yn hynod-haeddiannol ac yn adlewyrchu gwaith elusennol Bryn, yn benodol  - ei ymddiriedolaeth, sy'n annog cerddorion ifanc wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd:

"Dyma rywbeth rwy'n gobeithio ei chario â balchder, i'w ddefnyddio i helpu cantorion ifanc i gyflawni rhywbeth - i freuddwydio - ac mae hynny'n rhywbeth pwysig iawn"

Llongyfarchiadau mawr unwaith eto, rydym yn hynod o falch!