News

Tosca yn Llangollen

24th January, 2017

Bydd Bryn Terfel yn dychwelyd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf!

Dewch i brofi opera ddramatig Puccini sy’n llawn cariad, chwant, llofruddiaeth a chynllwynio gwleidyddol - Tosca. Gyda’i stori ddramatig a sgôr gyfoethog ramantus Puccini, dyma un o operâu poblogaidd gorau’r byd. Opera melodramatig yw’r gwaith, sy’n seiliedig ar ddrama Ffrengig La Tosca a ysgrifennwyd yn 1887 gan Victorien Sardou, fe’i lleolir yn Rhufain ym Mehefin 1800 gyda rheoaleth Teyrnas Napoli o Rufain dan fygythiad yn dilyn ymosodiad Napoleon ar yr Eidal. Mae Floria Tosca yn destun sôn a siarad yn y dref, ond un dyn yn unig sydd wedi dwyn ei chalon, sef Mario Cavaradossi. Wrth iddo ddechrau ymddwyn yn amheus, mae hi’n ofni fod gan Mario gariad arall. Ond mae’r gwir yw llawer mwy peryglus. Mae Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu, wedi gwirioni ar Tosca, ac mae’n bwriadu lladd ei chariad a’i chipio hi ar ei gyfer ei hun. Wrth i Scarpia roi ei gynlluniau ar waith, caiff Tosca a Cavaradossi eu dal yn y fagl a does dim dianc.

Gydag Amy Lane yn cyfarwyddo, mae’r bas-bariton Bryn Terfel yn dychwelyd i lwyfan yr Eisteddfod i berfformio yn yr ymddangosiad cyngerdd arbennig yma gyda rhai o gantorion mwyaf blaenllaw’r byd a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Gareth Jones, ag artistiaid rhyngwladol pellach i’w cyhoeddi cyn hir.

Mae’r perfformiad tua dwy awr 15 munud o hyd
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2017 – 7.30pm
Pris tocynnau: £55 / £35
http://international-eisteddfod.co.uk/cy/