News

Dod i Nabod...

9th February, 2017

Pam y piano? 
Roeddwn yn canu pob math o offeryn pan oeddwn yn ifanc -  gitâr, ffidil, recorder, drwm - ond mae'r piano fel bydysawd cyfan. Gallwch ei defnyddio i gyfansoddi a pherfformio – mae’n cynrychioli gwahanol arddulliau cerddorol o ddyddiau cynnar yr allweddell Ffrengig a Bach, hyd at Beethoven a Cage, jazz a blues. Dwi wastad wedi caru’r piano, a charu gwrando ar eraill yn ei chanu.


Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf fod gennych y ddawn i ganu’r piano? 
Wnes i ddim o gwbl. Roedd y peth mwyaf naturiol yn y byd i mi ganu’r piano – mae mam yn dweud mod i’n pigo darnau piano o’r glust pan oeddwn yn dair oed, ac fe wnes i barhau i ganu’r piano drwy fy mhlentyndod a’m harddegau, bron fel rhedeg o gwmpas yr ardd. Wnes i erioed feddwl amdano tan imi fod tua 17 oed a phenderfynu y dylwn ni ddechrau cymryd peth o ddifrif. Mi es i ymlaen i astudio yng Nghaergrawnt ac wedyn i’r Royal Academy of Music.

Pwy gafodd y dylanwad mwyaf arnoch yn eich bywyd proffesiynol?
Roedd cael fy newis gan YCAT (Young Concert Artist Trust) yn fy ugeiniau yn brentisiaeth ardderchog; gwnes nifer o gyngherddau mewn gwahanol neuaddau, adeiladu repertoire eang a dysgu cyfathrebu gyda chynulleidfa. 


Roedd David Sigall hefyd yn ddylanwad mawr. Fe oedd fy rheolwr tan iddo ymddeol y llynedd. Fe ddysgodd imi weld y gêm hir, fy nghefnogi i fod yn guradur ac yn gyfarwyddwr artistig.  Doedd dim a wnawn yn ei gynhyrfu, boed yn gychwyn label recordiau, arwain neu gydweithio gyda cherddorion byd–eang.


Rwyf hefyd wedi cael fy nylanwadu’n drwm gan gerddorion jazz; y ffordd maen nhw’n cydweithio, gwneud i bethau ddigwydd, cwmnia gyda’i gilydd, a chefnogi gigs ei gilydd.


Beth yw’r uchafbwyntiau proffesiynol hyd yn hyn?
Rwyf bob amser wedi mwynhau perfformio yn Proms y BBC – roedd y tro cyntaf bron ddeng mlynedd ar hugain yn ôl! Perfformio’r Goldberg Variations yn y Wigmore Hall, yna cael gwahoddiad i’w chwarae yn y Royal Albert Hall gan Sir John Eliot Gardiner; cyffrous iawn i mi! 

Yr atgof dwi’n ei drysori fwyaf yw gweithio gyda Pierre Boulez, ddwywaith; yn gyntaf ar daith Ewropeaidd gyda’r Philharmonia ac wedyn gyda’r Chicago Symphony Orchestra. Roedd yn ffraeth, yn gynnes, yn osgeiddig, yn hoff o hel clecs ac yn gerddor bendigedig i fod yn ei gwmni ar y llwyfan a’r tu ôl.

Ar beth ydych chi’n gweithio nawr?
Mazurkas cyflawn Chopin – bob un o’r  58! Rwyf hefyd yng nghanol eu recordio. Byddaf yn eu perfformio pob un ohonynt mewn un noson yn Wigmore Hall, Llundain ym mis Mai. 

Sut fyddwch chi’n dewis eich rhaglen ar gyfer cyngerdd?
Mae’n dibynnu ar y neuadd a’r gynulleidfa a beth fyddwn i’n hoffi ei ychwanegu at fy rhaglen. Rwy’n dal i ddysgu darnau newydd – eleni sonata olaf Schubert yn B fflat, gyda pheth o waith diweddar Liszt.

Pe gallech ddweud hanes eich bywyd mewn cerddoriaeth, pa ddarn(au) fyddech yn eu dewis a pham?
Dim syniad. Falle, y Goldberg Variations (heulog, ysgafn, cymhleth, mynd trwy gyfnod tywyll, dod allan y pen arall ac ail-adrodd yr Aria yn freuddwydiol) neu falle Sonata and Interludes for Prepared Piano Cage (pigog, darnau dawns Gamelan, tangnefeddus a bodlon ar y diwedd). 

O, daliwch ‘mlaen, beth am yr holl Mazurkas yna!

Beth oedd y cyngerdd diwethaf i chi fod ynddo, heb fod yn cymryd rhan?
Gig jazz yn y Bimhuis yn Amsterdam, ar nos Calan.

Gyda pha gyfansoddwr (byw neu farw) byddech chi’n hoffi cael cinio? 
Wel – naill ai Liszt yn hen ŵr, y cerddor mwyaf hael, gwybodus a chysylltiedig yn Ewrop; John Cage am ei hiwmor a’i wreiddioldeb; Pierre Boulez, oedd yn gydymaith arbennig - yn ddoeth ac yn loyw. 

Efallai gallaf gael y tri?

Dychmygwch bod rhaid ichi golli bob un sgôr gerddorol ond un; pa un fyddech chi’n ei chadw?
Fy hen gopi ysig o’r Well-Tempered Clavier, Book 1 gan J. S. Bach.

Pa hoffterau eraill sydd gennych heblaw am gerddoriaeth? Beth wnewch chi am hwyl ac i ymlacio?
Rwy’n mwynhau'r pethau arferol – rwy’n caru llenyddiaeth, darllen a gwylio hen ffilmiau. Rwy’n hoff o gerdded ar y Sussex Downs; rwy’n caru’r môr ac mae gen i ddiddordeb arbennig mewn coed. Fy mreuddwyd fyddai byw mewn coedwig.