News

ARTIST NEWYDD - STEFFAN MORRIS

13th April, 2017

Mae Steffan Morris, y canwr soddgrwth o Gastell Nedd, yn prysur wneud enw iddo'i hun fel un o soddgrythwyr gorau ei genhedlaeth. Mae'n mwynhau gyrfa amrywiol ac mae galw mawr arno fel unawdydd, siambr a cherddorfeydd.

“Cefais fy magu mewn awyrgylch gerddorol lle roedd pawb yn canu ac yn chwarae offeryn, felly y peth mwyaf naturiol oedd ymuno!  Roedd athrawes soddgrwth wych o'r enw Judith Daniel yng Nghastell Nedd, ac roeddwn yn dod ymlaen yn dda gyda hi ac fe wnaeth fy ysbrydoli i ganu'r soddgrwth.

Astudiodd Steffan yn yr Yehudi Menuhin School yn Surrey gyda'r canwr soddgrwth enwog, Thomas Carroll ac ym Mhrifysgol Cerdd a Chelfyddydau Perfformio yn Vienna gyda'r Athro Heinrich Schiff.

“Roedd fy athro soddgrwth, Heinrich Schiff a fu farw cyn y Nadolig yn ddylanwad mawr arnaf. Roedd bod yn ei ddosbarth yn anrhydedd mawr ac roeddwn yn ffodus i allu treulio cymaint o amser gydag e, o fewn a'r tu allan i'r stafell ddosbarth. Roedd ganddo rywbeth i'w ddweud am bopeth.  Roedd ei  chwaeth mewn gwin da yn rhywbeth i sôn amdano, nid mod i wedi ei flasu, wrth gwrs..."

Fel unawdydd mae Steffan wedi perfformio gydag amryw o gerddorfeydd dros y wlad. Mae ei berfformiadau cyngerdd a’i  ddatganiadau wedi mynd ag ef i Siapan, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal, Rwsia ac Awstria. Ef yw'r ieuengaf erioed i gael ei wahodd yn westai prif soddgrwth gyda Cherddorfa Siambr Vienna a hefyd gyda Cherddorfa'r London Philharmonic, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC a'r Royal Northern Sinfonia. 

“Fel  perfformiwr, rwy'n benderfynol bod pobl yn gadael y neuadd wedi clywed rhywbeth cofiadwy, boed yn ddim ond un cymal neu un math o sain. Rwy'n credu ei fod am y cyd-ymddiriedaeth rhwng perfformiwr a chynulleidfa a dylai'r gynulleidfa gael ei harwain drwy ddarn o gerddoriaeth. Rwy'n cofio mai'r perfformiadau a wnaeth argraff fawr arnaf i oedd y rheiny oedd yn dangos cytbwysedd rhwng  meistrolaeth dechnegol a gweledigaeth gerddorol."

“Mae 2017 yn flwyddyn eithaf prysur i mi. Mae gen i ambell i gyngerdd yn Llundain a Chaerdydd. Rwy'n mynd i Siapan a'r Ariannin gyda'r Marmen Quartet ac mae yna ambell i beth cyffrous yn digwydd gyda'r Nidum Ensemble, grŵp yr wyf yn ddigon ffodus i fod yn gyfrifol am ei redeg.”

“Mi fyddai rhai yn credu ei fod yn anarferol i gerddor clasurol, ond fy hoff genre o gerddoriaeth i wrando arno yw miwsig House a Jazz.  Ar wahân i gerddoriaeth rwy'n caru llyfrau ac yn darllen llawer pan fyddaf yn teithio. Mae bwyd hefyd yn bwysig, ac rwy'n bwyta mas lot!  Fy hoff gerddor yw'r arweinydd Carlos Kleiber. Roedd wastad yn chwilio am berffeithrwydd ac yn disgwyl llawer ganddo'i hunan.  Roedd yn gwneud yr annisgwyl o flaen cerddorfa! Petawn i'n cael dewis rhywun i fynd allan am ginio gydag ef, fe fyddai'r un. Gobeithio y byddai gennym ddigon i siarad amdano, er ei fod yn enwog am fod yn anfodlon siarad amdano'i hun - rhywbeth y byddwn i wrth fy modd yn cael gwybod mwy amdano."

“Mi fyddwch yn synnu clywed fod gen i uchelgais i wneud fy mwa fy hunan rhyw ddydd. Rwy'n angerddol am ddysgu mwy am yr offerynnau a'r bwau, fel yr wyf am eu canu; mae nhw'n weithiau o gelfyddyd ynddynt eu hunain."

Mae Steffan bellach yn byw yn Llundain lle mae'n Athro yn yr Yehudi Menuhin School.