News

Rhyddhau Albwm

26th April, 2017

Yn gyfuniad o ddiwylliant Pwylaidd gwerin, hiraeth, barddoniaeth a herio gwleidyddol, mae casgliad o fazurkas Chopin yn aml yn dwyn yr enw ‘canons buried in flowers’, enw a roddwyd i’r casgliad gan Schumann. Os yn cael ei berfformio’n gronolegol, mae’r casgliad yn portreadu dyddiadur cynnil a gyfresol o gyfansoddwr arloesol.

Yn astudiaeth oes ar gyfer unrhyw bianydd, mae Joanna MacGregor yn treiddio’r haenau ar un o gasgliadau mwyaf o lenyddiaeth piano – taith sydd wedi bod yn un hynod o bersonol iddi: “As a student, Joanna clearly recalls hearing Horowitz perform in London in 1981: "I slept outside the Royal Festival Hall to be sure of getting a ticket. Of all the pieces he played at his recital, the miraculous Op.17 No.4 is my most vivid memory. Chopin's porous, unresolved fluidity in these works has inspired so many pianists; his mazurkas a witness to human vulnerability and longing."

Wedi’i recordio yn Theatr Britten yn Snape Maltings, bydd Joanna yn perfformio’r casgliad cyfan mazurkas Chopin (58 ohonynt) yn Neuadd y Wigmore, Llundain ar 12 Mai, 2017.

"I've taken the simple decision to record and perform all fifty-seven in order of composition, and to follow the intense unfolding of a composer returning to the same place again and again: from Chopin's first mazurka to his last."

Fel myfyriwr, mae Joanna yn cofio clywed Horowitz yn perfformio yn Llundain yn 1981: "I slept outside the Royal Festival Hall to be sure of getting a ticket. Of all the pieces he played at his recital, the miraculous Op.17 No.4 is my most vivid memory. Chopin's porous, unresolved fluidity in these works has inspired so many pianists; his mazurkas a witness to human vulnerability and longing."

Recordiwyd The Complete Chopin Mazurkas ar label recordio Joanna, SoundCircus.

Bydd y recordiad digidol yn cael ei ryddhau ar lwyfannau ar-lein (iTunes, Amazon, Googleplay, Deezer , Spotify) ar ddydd Gwener 12 Mai, 2017 trwy Believe Direct.

Bydd y CD dwbl ar werth yn y Wigmore Hall ar ddydd Gwener 12 Mai, 2017 a bydd y CD yn cael ei rhyddhau gan Proper Music Distribution i fanwerthu tramor (Amazon, HMV ayyb) ar ddydd Gwener 26 Mai, 2017.

Y rhif catalog gar gyfer y recordiad ffisegol a digidol yw SCCD21705
http://soundcircus.com

Bydd Joanna yn perfformio’r mazurkas yn Neuadd y Wigmore, Llundain ar ddydd Gwener 12 Mai 2017.
http://wigmore-hall.org.uk