News

ARTIST HAREWOOD

15th September, 2017

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi fod Elgan Llŷr Thomas yn ymuno â Chwmni English National Opera fel Artist Harewood ar gyfer 2017/18.

Bydd Elgan yn gwneud ei début llwyfan gyda’r ENO yn y Regent’s Park Open Air Theatre fel Prologue/Peter Quint yn The Turn of the Screw, Britten. Cyn hynny, bydd Elgan yn dirprwyo rhan Count Almaviva yn The Barber of Seville, Rossini yn y Coliseum, Llundain.

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, graddiodd Elgan o'r Royal Northern College of Music ym Manceinion. Enillodd ei radd Meistr o’r Guildhall School of Music and Drama yn Llundain ac yn 2016, cwblhaodd ei astudiaethau ar Gwrs Opera enwog y Guildhall.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ymuno â thîm ENO fel Artist Harewood. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan y gwaith mae ENO yn ei wneud fel aelod o’r gynulleidfa. Ni allaf aros i weld y cyfan o’r ochr arall – mi fydd yn brofiad gwych, llawn hwyl dwi’n siŵr.”

Ymunodd Elgan â Scottish Opera fel Emerging Artist yn 2016 a gwnaeth ei début gyda’r cwmni yn perfformio rhan Nemorino yn eu cynhyrchiad teithiol o The Elixir of Love. Perfformiodd rhan Spoletta am y tro cyntaf mewn perfformiad cyngerdd wedi’i led-lwyfannu o Tosca yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Syr Bryn Terfel a Kristine Opolais; ac yn fwyaf diweddar, perfformiodd rhan Lindoro yn The Italian Girl in Algiers yn y Mananan International Festival. Y tymor hwn, bydd yn gwneud ei début fel Count Almaviva yn Il Barbiere di Siviglia yn y Théâtre des Champs-Elysées, Paris.


DYDDIADAU:
The Turn of the Screw - Regent's Park Open Air Theatre, Llundain, Lloegr.

Gwener, 22 Mehefin 2018. 19:45
Sadwrn, 23 Mehefin 2018. 19:45
Llun, 25 Mehefin 2018. 19:45
Mawrth, 26 Mehefin 2018. 19:45
Mercher, 27 Mehefin 2018 .14:15, 19:45
Gwener, 29 Mehefin 2018. 19:45
Sadwrn, 30 Mehefin 2018. 14:15, 19:45

Am wybodaeth pellach ac ymholiadau am argaeledd Elgan, cysylltwch â Sioned Jones neu Carys Davies ar:
sioned.jones@harlequin-agency.co.uk
carys.davies@harlequin-agency.co.uk


I'R GOLYGYDDION
Mae cynllun Artistiaid Harewood ENO, yn galluogi cantorion mwyaf talentog Prydain i berfformio gyda chwmni mawr, gan dderbyn hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad arbenigol. Ar draws tymor 2017/18, bydd dros 20 o rolau’n cael eu perfformio gan Artistiaid Harewood ENO, boed yn rhai cyfredol neu flaenorol.

Dechreuodd gynllun Artistiaid Harewood ENO ym 1998 ac erbyn hyn, mae’n enwog am ddatblygu rhai o gantorion opera ifanc mwyaf disglair y Deyrnas Unedig. Dros y blynyddoedd, mae artistiaid megis Sophie Bevan, Mary Bevan, Katherine Broderick, Allan Clayton, Madeleine Shaw, Nicky Spence, Julia Sposen, Sarah Tynan a Kate Valentine wedi bod yn rhan o’r cynllun.