News

Artist Newydd

8th March, 2018

Mae gan Rhodri Prys Jones, sy'n wreiddiol o Lanfyllin, lais tenor dengar, naturiol. Yn artist cyngerdd poblogaidd, mae wedi perfformio nifer o premieres byd a blwyddyn ddiwethaf, recordiodd gyfieithiad newydd Cymraeg o’r Dioddefaint yn ôl Ioan gan J.S. Bach yng Nghadeirlan Llandaf a ddarlledwyd ar S4C.

Ar hyn o bryd, mae yn ei flwyddyn olaf ar gwrs M.A Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.