News

ALBWM NEWYDD

18th June, 2018


Dyddiad Ryddhau: 14 Medi 2018
Gwyliwch Syr Bryn yn cyflwyno’r albwm YMA


Ar ôl pum mlynedd, mae Syr Bryn Terfel yn ôl gyda’i albwm newydd ‘Dreams and Songs’ – i’w ryddhau ar 14 Medi ar label Deutsche Grammophon. Mae’n gasgliad o’i hoff alawon, wedi’i recordio gyda cherddorfaeth newydd ac yn cynnwys gwesteion arbennig iawn.

Yn adnabyddus ledled y Byd fel cantor sy’n mynd i’r afael â rolau operatig heriol, mae’r albwm newydd yn dangos ochr ysgafnach Syr Bryn gyda darnau cyngerdd a theatr gerdd poblogaidd, caneuon traddodiadol Cymreig a chaneuon gomedi difyr. Ymhlith y darnau ar yr albwm mae ‘If I Were a Rich Man’ o Fiddler on the Roof, yr Alaw Werin Gymreig ‘Ar Lan y Môr’, y faled Gwyddelig ‘The Fields of Athenry’ ac un o’i hoff ganeuon gomedi, ‘The Golfer’s Lament’. Datgelir y llu o artistiaid enwog fydd yn ymddangos ar yr albwm dros yr wythnosau nesaf.  

Dywed Syr Bryn: “Mae wedi bod yn fraint cael dychwelyd i’r stiwdio i recordio rhai o’m hoff repertoire cyngerdd. Caneuon, deuawdau a rhai encorau comedi dwi wrth ym modd yn ei ganu. Rwy’n ffodus iawn cael rhannu’r albwm newydd hon gydag artistiaid arbennig, ac i recordio yn Stiwdio eiconig Abbey Road – anhygoel. Fel y dywed yn ‘Fields of Athenry’.. dreams and songs to sing.”

Wrth ochr ei albwm newydd, mae Syr Bryn Terfel yn parhau i berfformiadau ar draws y Byd, gan gynnwys Falstaff yn y Royal Opera House, Covent Garden ym mis Gorffennaf, Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Awst a Sweeney Todd gyda Zürich Opera ym mis Rhagfyr.

Yn ymwelydd cyson i brif gwmnïau opera a neuaddau cyngerdd nodedig y byd, mae Syr Bryn Terfel wedi creu gyrfa eithriadol i’w hun. Mae'n enillydd Grammy, Classical Brit a Gramophone Award gyda disgyddiaeth sy'n cynnwys operâu Mozart, Wagner a Strauss, a mwy na phymtheg o ddisgiau fel unawdydd yn cynnwys Lieder, Theatr Gerdd Americanaidd, caneuon Cymreig  a chaneuon cysegredig. Y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethpwyd yn farchog am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Yn 2015, dathlodd ei ben-blwydd yn 50 oed a 25 mlynedd yn y proffesiwn gyda Chyngerdd Gala arbennig yn y Royal Albert Hall, Llundain. Parhaodd y dathliadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, lle perfformiodd Scarpia mewn perfformiad cyngerdd arbennig o Tosca gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae uchafbwyntiau operatig yn cynnwys ei début yn canu rhan Hans Sachs yng nghynhyrchiad clodfawr Opera Cenedlaethol Cymru o Die Meistersinger von Nürnberg; Wotan yn The Ring Cycle yn y Royal Opera House, Covent Garden ac yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd; ei début yn canu rhan  Reb Tevye yn The Fiddler on the Roof i Grange Park Opera, a’i début yn canu rhan Boris Godunov gyda’r Royal Opera House, Covent Garden; Sweeney Todd i English National Opera a llywyddu gŵyl bedwar diwrnod, Brynfest, yn y Southbank Centre, Llundain fel rhan o Ŵyl y Byd yn y Southbank Centre.

Yr un mor enwog am ei hyblygrwydd fel perfformiwr cyngerdd, mae ei uchafbwyntiau yn amrywio o Seremoni Agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, BBC Last Night of the Proms, a'r Royal Variety Show i Gyngerdd Gala gyda Andrea Bocelli yn Central Park, Efrog Newydd, ac am naw mlynedd, cynhaliodd Ŵyl ei hun yn y Faenol yng Ngogledd Cymru.

Mae cyngherddau a datganiadau 2018 yn cynnwys Gŵyl Aldeburgh, y Classic BRIT Awards yn y Royal Albert Hall; Gŵyl Caergaint; Teatro Colón, Buenos Aires; Tŷ Opera Oslo a’r Royal Festival Hall, Llundain.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: rachel.tregenza@umusic.com