News

Anturiaethau Awyr Agored Adam Gilbert gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru!

4th June, 2021

Yn dilyn cyfnod mor hir heb berfformiadau byw, mae'n gyffrous iawn fod Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd yn fyw, yr haf yma, gyda pherfformiadau yn yr awyr agored yn lleoliad hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg. Daw'r stori gyfarwydd , glasurol hon gan Lewis Carroll yn fyw yn yr opera teulu hynod a hyfryd hon, a gomisiynwyd a chynhyrchwyd yn wreiddiol gan gwmni Opera Holland Park.

Daw stori glasurol Alice’s Adventures in Wonderland yn fyw yn yr opera hynod a hyfryd hon i'r teulu. Gyda nifer o gymeriadau cyfarwydd megis lindysyn didaro, cath hapus, ysgyfarnog sarrug, hetiwr hurt, pathew cysglyd ac Adam ei hun fel Brenhines y Calonnau, budd sgôr Will Rodd yn cael ei pherfformio gan gerddorfa fach, ac yn gymysgedd eclectig o gerddoriaeth jas, sioe gerdd ac opera ac yn ategu'r libreto ffraeth yn berffaith i greu stori hwyliog a difyr sy'n aros yn driw i'r llyfr gwreiddiol.

Cafodd Adam, sydd wedi gwneud y symudiad o lais bariton i denor, y fraint o'i apwyntio fel un o Artistiaid Cyswllt newydd Opera Cenedlaethol Cymru cyn i'r byd fynd dan glo, ac mae wrth ei fodd felly i gael y cyfle o'r diwedd i berfformio yn fyw o fewn ei rôl newydd gyda'r cwmni arbennig yma.

Am fanylion pellach a thocynnau, cliciwc yma: Tocynnau