News

Dosbarth Meistr

23rd February, 2015

Ar ddydd Gwener, 6ed o Fawrth fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor  bydd yr arweinydd Gareth Jones yn cynnal dosbarth meistr i'r cyhoedd gyda Patrick Rimes a Camerata Gogledd Cymru rhwng 1- 4pm yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.

Fel sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Sinfonia Cymru, mae Gareth Jones wedi ymroi i fentora a gweithio gyda cherddorion ifanc a datblygu eu sgiliau a'u profiad perfformiad:

"Ar ôl clywed llawer o bethau da am Camerata Gogledd Cymru a'u harweinydd hynod dalentog, Patrick Rimes, rwy'n edrych ymlaen at dreulio diwrnod cynhyrchiol a gobeithio, diwrnod ysbrydoledig yn eu cwmni."

Mae Camerata Gogledd Cymru yn ensemble o fwy na 20 o gerddorion ifanc, o dan gyfarwyddyd Patrick Rimes. Fe'i sefydlwyd gan Patrick a'i ffrind Daniel Evans yn 2014 fel cyfle i grwp o ffrindiau ddod at ei gilydd o bob cwr o'r gogledd gyda'r nod o roi llwyfan i gerddorion ifanc i archwilio a datblygu eu sgiliau cerddoriaeth siambr a chymryd y camau cyntaf i fyd y chwaraewyr proffesiynol.Meddai Patrick:

"Alla i ddim aros i Gareth roi  ei linyn mesur dros Camerata Gogledd Cymru yng Ngŵyl Gerdd Bangor! Rwy'n gobeithio y  bydd yn gallu'n cael i ddisgleirio ar gyfer y cyngerdd nos Sadwrn, ond hefyd yn ein paratoi i gymryd ein sgiliau cerddoriaeth siambr i'r lefel nesaf ar gyfer y dyfodol!"

Bydd Cyngerdd yn dilyn y dosbarth meistr yng Nghapel Penrallt, Bangor, ar ddydd Sadwrn, 7 Mawrth 19:30. Bydd Patrick Rimes yn arwain Camerata Gogledd Cymru mewn rhaglen o gerddoriaeth amrywiol, barddoniaeth a tafluniad fideo. Bydd y noson yn cynnwys y perfformiad cyntaf o “Gentle Dove', gwaith newydd gan Owain Llwyd, darlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor, yn ogystal â chyfansoddiadau newydd gan fyfyrwyr lleol a disgyblion ysgol. Bydd cerddoriaeth y cyngerdd yn cynnwys 'Quiet City' Copland,  'Plaint' Martland, 'Vassal  Fitkin a  'Libertango' Piazzola.

Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Bangor, ewch i
www.bangormusicfestival.org.uk