News

Mewn Datganiad..

24th February, 2015

Bydd y pianydd Eugene Asti yn cyfeilio i’r mezzo soprano Sarah Connolly mewn dau ddatganiad ym mis Mawrth - yn Bridgewater Hall ym Manceinion ar 24ain o Fawrth fel rhan o'u Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol am 19.30 ac yna wedyn yn nhref hyfryd Painswick yn y Cotswolds i Gymdeithas Gerdd Painswick ar 28ain o Fawrth am 15.00. Mae Eugene yn un o gyfeilyddion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth ac mae wedi perfformio gyda llawer o artistiaid mawr, gan gynnwys y Fonesig Felicity Lott, y Fonesig Margaret Price, Syr Willard White, Syr Thomas Allen, Angelika Kirchschlager, Bryn Terfel ac wrth gwrs Sarah Connolly y mae wedi ei hadnabod ers nifer o flynyddoedd.

"Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda Sarah Connolly. Mae hi'n un o'r cantorion goraurydw in nabod - yn gerddor ac yn artist cyflawn ac mae hi hefyd yn ffrind annwyl. Rydym wedi adnabod ein gilydd ers amser hir ac wedi gweithio gyda'i gilydd llawer iawn. Rwy'n teimlo ein bod yn clicio' yn gerddorol ac yn gallu ymddiried yn eigilydd yn llwyr mewn datganiad ar y llwyfan. Ar gyfer ein rhaglenni ym Manceinion a Painswick rydym wedi dewis dau gampwaith obrif ffrwd graidd y repertoire Lieder (Frauenliebe und -lebenSchumann a Rückert -Lieder-Mahler) - darnau yr ydym wedi eu perfformio gyda'n gilydd sawl gwaith. Mae hwn yn gerddoriaeth syn mynd â ni ar daith emosiynol ddwys Mae gweddill y rhaglen yn dipyn llai adnabyddus,caneuon Ffrengig ychydig yn esoterig gan Albert Roussel (atmosfferig iawn, ychydig yn od, a hollol unigryw) a chân Saesneg gan Britten a Finzi, yn ogystal â darn braidd yn jazzy i gloi gan y diweddar Syr Richard Rodney Bennett (a gosodiad hiraethus o gerddi gan chwaer y cyfansoddwr am y tea dance"). Mae'n fraint i berfformio cerddoriaeth wych o'r fath - a Sarah yw'r partner delfrydol ar gyfer repertoire hwn".

Yn ychwanegol at ei waith fel cyfeilydd, mae Eugene yn dysgu yn y Guildhall School of Music and Drama ac mae hefyd yn Gydlynydd Cyfeiliant Lleisiol yn Trinity College of Music yn Llundain. Yn 2009 daeth Eugene yn Artist Steinway swyddogol.