News

Eurovision 2015.

27th March, 2015

Rhywbeth newydd i Harlequin – mae ein Mary-Jean O’Doherty ni yn cystadlu yn yr Eurovision Song Contest.

Bydd Mary-Jean O’Doherty, y soprano sy’n byw yng Nghaerdydd, yn cynrychioli Armenia yng nghystadleuaeth yr Eurovision Song Contest eleni.  Mae gan Mary-Jean, sydd o Awstralia, ddinasyddiaeth Awstralia, Groeg ac America ac mae’n briod gydag un arall o artistiaid Harlequin – y cyfeilydd a’r repetiteur, Caradog Williams; cafodd ei chadarnhau fel pumed aelod Genealogy – grŵp arbennig o chwech fydd yn cynrychioli Armenia yn yr Eurovision Song Contest yn mis Mai.

Mae llais coloratura trawiadol a chlir Mary-Jean wedi llenwi aml i dŷ opera enwog, ac oherwydd addysg Armenaidd ei mam cafodd Mary-Jean ei chefnogi i astudio canu.  Mae hi’n falch o’i gwreiddiau Armenaidd a chafodd ei hysbrydoli yn gynnar iawn gan y cyfansoddwr, canwr, cerddolegydd ac offeiriad Armenaidd, Komitas.

Bydd Mary-Jean yn ymuno gyda’r cantorion Essaï Altounian o Ewrop, Tamar Kaprelian o America, Stephanie Topalian o Asia, Vahe Tilbian o’r Affrig ac Inga Arshakyan o Armenia.  Eu gwreiddiau Armenaidd sy’n eu huno.  Face the Shadow yw’r gân ac fe’i cyfansoddwyd gan Martirosyan a’r geiriau gan Inna Mkrtchyan.  Mae’n anthem bwerus am heddwch, undod a chariad sy’n cyfuno’r chwe llais yn berffaith.

Pan nad yw Mary-Jean yn canu dros ei gwlad, mi fydd i’w chlywed yn canu opera dros y byd i gyd. Mae ymddangosiadau diweddar wedi mynd a hi i Tel Aviv lle canodd ran Konstanze yn Die Entfuhrung auf dem Serail ac i Awstria lle roedd yn dirprwyo rhannau Despina yn Così fan tutte a Marzelline yn Fidelio i’r Tyrol Festival Erl.

Rydym i gyd yn dymuno’r gorau i Mary-Jean a Genealogy yn mis Mai, ond os na allwch chi aros tan hynny, mi allwch wrando ar  Face the Shadow yma:


https://www.youtube.com/watch?v=VuW3-PpvxTE

Bydd yr Eurovision Song Contest yn digwydd ar Mai 19, 21 a 23 yn Vienna, Awstria.