News

Dychwelyd Adref

25th March, 2015

Bu’r mezzo-soprano Leah-Marian, cyn mynd ar liwt ei hun, yn brif artist yn y Royal Opera House, Covent Garden am wyth mlynedd lle bu'n canu dros ddeg ar hugain o rannau. Ers hynny, mae hi wedi canu yn holl brif dai opera Prydain, ac ym mis Mai, mae'n dychwelyd i Opera Cenedlaethol Cymru i ganu rhan Genevieve yn Pelleas et Melisande. Siaradodd Carys Davies, golygydd y cylchlythyr a Leah-Marian cyn ei hymddangosiad gyda WNO.

Sut gwnaethoch chi ddarganfod canu opera gyntaf?
Y cyfan oeddwn i am ei wneud oedd canu. Felly mi ddwedodd fy hen athro cerdd, oedd yn bysgotwr, wrthyf pan oeddwn tua 12 oed y dylwn i fynd i goleg canu, a wyddwn i ddim fod y fath beth yn bod ar y pryd, ac wedi gorffen yno y byddwn yn gallu ennill arian yn canu Opera...wow, meddyliais...Felly, dyna ddechrau gwrando ar gerddoriaeth glasurol yn lle'r Bay City Rollers a David Soul.. o diar, mae hynny'n dangos fy oed! A dyna wnes i ac mae'r gweddill yn hanes.

Roeddech chi'n Brif Gantores Cwmni yn y Royal Opera House, Covent Garden am wyth mlynedd lle gwnaethoch chi ganu dros 30 o wahanol rannau; pa un oedd agosaf at eich calon?
Dyma amser gorau fy mywyd; canu ochr yn ochr â chantorion ac arweinyddion gwirioneddol wych. Rhai enwau sy'n fyd enwog a chantorion ac arweinyddion ardderchog o Brydain na fyddai pobl wedi clywed sôn amdanyn nhw ond oedd yn rhoi pleser arbennig.

Tra dan gytundeb, mi fyddwn yn canu tua 50 o sioeau bob blwyddyn. Roedd yn waith caled iawn gan y gallwn fod yn ymarfer opera Eidalaidd gan Rossini yn y bore neu'r prynhawn ac yn canu rhywbeth hollol wahanol ar y llwyfan gyda'r nos – falle opera gan  Janacek.

Ond mae yna ambell i sioe sy'n gofiadwy. Canu Emilia yn Othello gyda thenoriaid gwych fel Placido Domingo, Jose Cura a Dennis O'Neill. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn canu comedi. Mi gefais i lot o sbort gyda'r chwaer hyll yn La Cenerentola, gan imi gael rhwydd hynt i wneud fel y mynnwn, o fewn rheswm.

Fe wnaethoch eich debut gyda Opera Cenedlaethol Cymru yn 1990 mewn cynhyrchiad teithiol bychan o  Hansel and Gretel, ac wedi bod yn gantores wadd yn aml yno dros y blynyddoedd. Beth sydd mor arbennig am weithio gyda'r cwmni?
Allwn i ddim credu pan wnaeth y cwmni fy nghyflogi y tro cyntaf i ganu Maddalena ar eu taith Piano; rwy'n credu inni fynd i bob theatr yng Nghymru. Dwi ddim yn cofio sawl perfformiad wnaethon ni, ond roeddwn yn gwybod rhan pawb erbyn y diwedd.

Rwyf wedi dychwelyd i Gaerdydd sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n gwmni mor gyfeillgar: mae'n wir fraint i ganu gyda nhw. Mae’n fendigedig cael mynd am dro o gwmpas y bae yn eich awr ginio i anadlu awel y môr.

I'r rhai ohonom sydd heb weld Pelleas et Melisande o'r blaen, beth allwch chi ddweud wrthym am gymeriad Genevieve a'i rhan yn yr opera?
Hi yw mam y ddau hanner brawd Goloud a Pelleas. Rwy'n teimlo ei bod yn berson eitha' positif ac yn edrych ar yr ochr orau. Dim ond ar ddechrau’r opera mae’n ymddangos, ond, fel llawer o rannau bychain, mae'n chwarae rhan bwysig yn yr opera.

Cafodd Pelleas et Melisande ei phermormiad cyntaf yn yr Opera-Comique yn Paris yn 1902 gyda Andre Messager yn arwain.  Cymysglyd oedd ymateb y beirniaid ar y pryd  – rhai'n cyhuddo'r gerddoriaeth o fod yn  “sickly and practically lifeless”  tra bod eraill yn ystyried y gwaith yn gamp eithriadol yn hanes cerddorol Ffrainc. Beth yw'ch barn chi am yr opera? 
Does dim arias na thwrw a lliw fel yn operâu Verdi. Mae Debussy yn defnyddio rhythm sgwrs wrth osod y gerddoriaeth. Does na ddim sŵn mawr o gwbl, felly rydych yn teimlo fel pe bae chi'n cerdded i mewn i fyd breuddwydiol. Dwi ddim yn credu ei fod e am gael gormod o “ganu mawr” mewn gwirionedd.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n ei hoffi, ond rydwi wedi cael fy synnu o'r ochr orau gyda'r emosiwn mae'r harmonîau anarferol yn ei greu.  Mae'n waith oriog a symbolaidd iawn.

Sut byddwch chi'n paratoi am y rhan? Fyddwch chi'n gwrando ar hen recordiadau?
Y cam cyntaf i mi wrth ddysgu'r rhan yma yw cael gafael ar yr ynganiad cywir, i sicrhau fod cynildeb y llafariaid yn iawn, yn enwedig yn y Ffrangeg, gan y bydd hyn yn arbed amser pan awn ni i gynhyrchiad.

Ac ydw, mi fyddaf wastad yn gwrando ar hen recordiadau - cyn 1960, fel arfer. Mi fyddai'n ceisio gwrando ar rhywun sy'n siarad yr iaith heb boeni gormod pa fath o sŵn sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn rhoi mwy o gysur imi fod fy iaith yn gywir. Mi fyddaf hefyd yn cael hyfforddiant ar y gerddoriaeth i sicrhau mod i wedi ei ddysgu'n gywir. Mae'n eitha' pwysig eich bod yn cyrraedd diwrnod cyntaf yr ymarfer yn teimlo'n hyderus ac wedi paratoi'n drylwyr.

Mae rhai cantorion wedi dweud wrthym eu bod yn osgoi gwrando ar hen recordiadau rhag ofn iddyn nhw gael eu dylanwadu gan y dull o ganu, ac y gallen nhw, yn ddiymwybod, ddechrau dynwared rhywun arall ar y llwyfan. Beth yw eich barn am hyn?
Dwi'n deall beth mae nhw'n ei feddwl, achos dydych chi ddim yn ymwybodol eich bod yn dynwared.

Ond dyw hi ddim bob amser yn bosib rhoi'ch pen i lawr a dysgu'r nodau, felly, mae gallu gwrando ar y miwsig a chael blas ar yr arddull yn beth da.

Pa agweddau o'r rhan ydych chi'n edrych mlaen atynt fwyaf?  Oes yna heriau dehongli wrth bortreadu Genevieve?
Mae'r rhan hon wedi ei gosod yn isel yn y llais. Does yna ddim llawer o fannau i “ddangos eich hunan”, ddwedwn ni! Felly, mae cael rhythm yr iaith yn iawn yn hanfodol.

Ydych chi'n nerfus cyn perfformio?
Ydw, bob amser. Weithiau fyddai'n dda gen i tasen i ddim, ond mae'r nerfau'n canolbwyntio'r meddwl.

Oes gennych chi ddefodau cyn perfformio? Os oes, beth yw nhw?
Na, rwy i wedi osgoi hynny rhag ofn imi rywbryd fethu eu gwneud. Ond rydw i'n ceisio bwyta pryd da ganol dydd fel nad wyf yn bwyta gormod o fwyd cyn y perfformiad. Rwyf hefyd yn cnoi gwm i gadw'r ceg yn wlyb ac mi fyddaf yn osgoi gweiddi ar neb ar ddiwrnod y sioe.

Mi wn am lawer o gantorion sy'n cael nap bach cyn y sioe, ond alla i ddim gwneud hyn.

Sut byddwch chi'n weindio i lawr ar ôl perfformiad?
Os byddai'n aros yn agos i'r theatr, gwylio teledu yw fy hoff ffordd o weindio i lawr.

Os oes gen i siwrne hir ar ôl y perfformiad, mae honno'n fy nhawelu a dod a fi'n ôl at realiti.

Mae Cymru, eich mamwlad, yn cael ei hystyried yn Wlad y Gân. Pa ddylanwad gafodd hyn ar eich penderfyniad i ddod yn gantores broffesiynol?
Rwy'n credu mod i'n ffodus i gael fy ngeni yng Nghymru a chael y gallu i ganu, gan fod canu yn rhan mor fawr o'n diwylliant. Efallai, petawn i eisiau canu'r ffliwt fyddai hi ddim wedi bod mor hawdd.

Doedd 'na ddim rhagfarn yn erbyn rhywun oedd yn canu pan oeddwn i'n tyfu lan – yn canu yn yr ysgol neu ar lwyfan.  Rwyf wedi clywed hanesion gan ffrindiau gafodd eu magu yn Lloegr yn cael eu galw'n enwau o bob math am eu bod yn sefyll i ganu neu i chwarae offeryn. Un o'n doniau mwyaf fel cenedl yw peidio cael rhagfarn, dydyn ni ddim yn gweld canu neu farchogaeth, neu bethau cyffelyb fel pethau elitaidd.

Beth rwy'n geisio'i ddweud yw ei fod yn naturiol i symud o ganu mewn capel neu eglwys neu eisteddfodau i fod yn gantores broffesiynol. Alla i ddim dweud ei fod yn benderfyniad poenus. 

Pwy neu beth yw'r dylanwadau pwysicaf arnoch yn ystod eich blynyddoedd o hyfforddi/perfformio?
Chi'n sylweddoli mewn bywyd mai dim ond llond dwrn o bobl sydd wedi dylanwadu ar eich dewis gyrfa.  Rwyf i wedi bod yn ffodus i gael athrawon canu sydd wedi credu ynddo fi, ac mae hynny'n rhoi'r hyder i chi lwyddo.

Petaech chi ddim yn canu opera, beth, chi'n credu, fyddech chi'n ei wneud nawr?
Fel plentyn, y cyfan oeddwn i'n ei wneud oedd canu a marchogaeth ceffylau, ond mi ddwedodd fy nhad na allwn i fod yn joci gan ei fod yn rhy ddrud ac yn rhy beryglus.

Felly, mae'n debyg, pe bai gen i'r diddordebau sydd gen i nawr bryd hynny, mi allwn i fod wedi bod yn arddwr, er dwi ddim yn credu os byddwn i wedi mynd at y  swyddog gyrfaoedd yn yr ysgol i ddweud mai garddio oedd fy newis gyrfa y byddai wedi fy nghymryd o ddifrif.

Oes gennych chi gyngor i gantorion addawol, uchelgeisiol?
Dwi ddim yn credu fod yna fformiwla i sicrhau llwyddiant. Mae angen bod yn y lle iawn ar yr amser iawn a gyda'r nwyddau mae pobl yn chwilio amdanyn nhw. Mae angen lot o lwc.

Rwy'n credu os mai canu yw eich breuddwyd na ddylech gael eich dylanwadu gan bobl negyddol, ac mae yna ddigon o rheini o gwmpas. Hefyd, os yw arweinyddion yn eich hoffi, mae nhw'n debygol iawn o'ch defnyddio.

Mae'r cynhyrchiad yn agor ar ddydd Gwener 29 Mai am 19:15 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gyda pherfformiadau dilynol ar Fehefin 4, 6 yng Nghaerdydd a 13 Mehefin yn y Birmingham Hippodrome.