News

Dod i Nabod... Sioned Terry

3rd May, 2015

Sut wnaethoch chi ddechrau?
Taid wnaeth fy nghyflwyno i gerddoriaeth pan oeddwn i tua 3 oed wrth adael imi chwarae’r piano yn y parlwr!  (Doedd dim llawer yn cael mynd i mewn i’r ‘inner sanctum’ yna – felly roedd o’n dipyn o beth!)  Ond fel y rhan fwyaf o Gymry, yr Eisteddfod chwaraeodd ran fawr yn datblygu a meithrin fy awydd i ganu a pherfformio'n gyffredinol. Dechreuais gystadlu pan oeddwn i tua 4 oed yn Eisteddfod y pentref yn Bethel, Caernarfon ac ennill fy ngwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oeddwn i'n 25 oed, -  ennill yr Unawd Contralto yn canu ‘Paratoa Dy hun Seion', o'r Oratorio Nadolig gan Bach.

Pwy yw'r dylanwadau cerddorol?
Tyfais i fyny yn gwrando ar Julie Andrews. Fel plentyn roeddwn yn ceisio dynwared ei nodweddion lleisiol (heb lawer o lwyddiant).  Roeddwn i'n caru'r symylrwydd hardd yn ei llais a dwi'n credu fod hynny wedi aros efo fi hyd heddiw.


Adeg ysgol uwchradd a Phrifysgol, y dylanwad mawr oedd fy athro piano, Harvey Davies. Mi fyddaf yn ddiolchgar am byth i Harvey am fy nysgu am bwysigrwydd dewis repertoire addas. Diolch iddo fo, dwi'n deall  mai nid cyfaddawd yw ffafrio un cyfansoddwr yn hytrach nag un arall ond mai beth sy'n gweithio i'm offeryn i sy'n bwysig a gobeithio y bydd fy offeryn i wedyn yn gwasanaethu'r gerddoriaeth a'r cyfansoddwr yn dda.

Pwy neu beth ydych chi wedi ei aberthu dros eich celfyddyd?
Trefn gwaith a bywyd. Er mod i'n caru beth dwi'n wneud, rhaid imi gyfaddef mod i'n hoffi trefn ac yn cynllunio pob dim. Dwi'n gorfod gofyn trwy'r amser yn y byd yma “pryd a lle dwi'n gweithio nesa'?” tra bod dysgu mor drefnus a diogel.

Pa fath o gerddoriaeth fyddwch chi'n wrando arno?
Dwi'n gwrando ar artistiaid fel Ella Fitzgerald, Bille Holiday, Mel Tormé a Tony Bennet. Dwi hefyd wrth fy modd yn pigo yn yr American song book.

Oes gennych chi fentor neu artist rydych chi'n ei edmygu?
Dwi wastad yn edmygu artistiaid a hirhoedledd yn eu gyrfa; artistiaid fel Ella Fitzgerald.

Pa un cân fyddai'n cael lle amlwg ar drac sain eich bywyd?
Cwestiwn anodd. Falle rhywbeth fel ‘Don’t Rain on My Parade’, wedi ei chanu gan Streisand, yn bendant neb arall!  Mae'n gân teimlo'n dda efo dipyn o ergyd.

Sut fyddech chi'n diffinio'r gair 'llwyddiant'?
Mi fyddwn i'n dweud fod llwyddiant yn dod pan fyddai'n gwybod mod i wedi cyflawni tasg hyd eithaf fy ngallu.  Dwi'n gweld popeth fel her bersonol.

Beth yw eich hoff sioe gerdd? 
Heb amheuaeth, ‘The Sound of Music’. Roeddwn i wrth fy modd yn ei gwylio pan oeddwn yn blentyn a dwi'n dal i'w charu heddiw. Mi fyddwn yn dotio cael cyfle i chwarae Maria rhywbryd.

Beth yw eich cân ddewis mewn Karaoke?
Mi fyddwn yn dewis rhywbeth holl amhriodol fel un o ganeuon Guns ’n’ Roses …..falle ‘Paradise City’.

Beth yw eich hoff hobi?
Dwi'n rhedeg. Dair blynedd yn ôl mi ges i gyfle i ganu'r anthem genedlaethol ar ddechrau ras Hanner Marathon Caerdydd, ac mi benderfynais os oeddwn i'n mynd i ganu, mi faswn i'n rhedeg hefyd. Mi ges fy ngwahodd yn ôl y flwyddyn ganlynol a gwneud yr un peth eto. Erbyn hyn mae o'n sownd yn y calendr ac eleni mi fyddaf yn rhedeg fy 4ydd Hanner Marathon Caerdydd.

Beth oedd eich perfformiad mwyaf dirdynnol hyd yma? 
Fy natganiad gradd – heb unrhyw amheuaeth!

Rhannwch dair rheol bywyd chi wedi eu dysgu hyd yma.
1: Gwrando
   2: Dysgu   
3: Gwrando mwy!

Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy sy'n cymryd eich rhan chi?
Falle rhywun fel Cate Blanchett. Roeddwn yn caru ei phortread 'feisty' o Elizabeth y 1af ….. er does dim rhaid ichi fod yn dal i fod yn 'fiesty'!

Beth yw eich hoff le yn y byd?
Bae Trearddur ar Ynys Môn a'i draethau bach bendigedig.  Bob haf mi fydd fy ngwr, fy merch a minnau'n mynd am bicnic yno; mae' o'n draddodiad teuluol bellach.

Beth oedd y cyngerdd diwethaf i chi fynd iddo, nad oeddech chi'n cymryd rhan?
Yn ddiweddar mi es i ddatganiad gan Willard White ym Mangor. Roedd o yn yr un  neuadd â lle gwnes i fy natganiad gradd flynyddoedd yn ôl!  Roedd yn gyfareddol o'r dechrau i'r diwedd – mor ardderchog am ddweud stori a dehongli caneuon.

Pe baech chi ddim yn canu, beth fyddech chi'n ei wneud nawr?
Meddwl am ganu!

Dwedwch eich jôc orau.
“Mi es i i'r banc diwrnod o'r blaen a gofyn i'r clerc am 'balance check” a dyma hi'n fy ngwthio i.”