Newyddion

900 milltir oddi cartref

1st June, 2015

Sut dechreuodd pethe? Pryd cychwynnodd eich antur mewn cerddoriaeth glasurol?
Rwyf wastad wedi eisiau bod yn gerddor. Roeddwn yn 4 oed pan glywais i opera am y tro cyntaf.  Pan o ni’n saith oed, es i ysgol gerdd lle dysgais ganu'r piano a'r clarinet. Roeddwn yn perfformio jazz cyn imi gael fy nhynnu at gospel. Mi chwaraeais gyda nifer o fandiau ond doeddwn i erioed mor hyderus gydag offerynnau ag yr oeddwn i'n canu.

Fe gwmpais mewn cariad gydag opera a dechreuais hyfforddiant i ddod yn ganwr opera proffesiynol. Cefais radd gyda rhagoriaeth o'r Academi Gerddoriaeth yn Lodz, lle cefais fy nysgu gan Wlodzimierz Zalewski. Fe hefyd ddysgodd y bariton enwog - Mariusz KwiecieĊ„.

Pwy oedd eich dylanwad cerddorol?
Fy nhad. Mae'n wir ysbrydoliaeth. Cafodd hyfforddiant fel canwr opera cyn troi at gerddoriaeth gospel.  Wedi blynyddoedd o berfformio, penderfynodd fynd yn weinidog. Er iddo newid llwybr, bydd cerddoriaeth yn ei galon am byth. 

Pwy neu beth ydych chi wedi ei aberthu dros gerddoriaeth?
Rwy'n credu fod rhaid ichi aberthu rhywbeth i lwyddo mewn bywyd. Fi; aberthais deulu a chyfeillion.

Er mwyn bod yn ganwr rhagorol, rhaid cael yr addysg orau; doeddwn i ddim yn credu y gallwn i gael hwnnw yng ngwlad Pwyl. Felly, roedd yn rhaid gadael.

Bu fy rhieni bob amser yn gefnogol i'm dewisiadau mewn bywyd. Mae nhw'n caru cerddoriaeth. Mae nhw'n dilyn fy mherfformiadau i gyd ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw am eu cefnogaeth a'u cariad. Gobeithio eu bod yn falch ohonof.

Beth wnaeth i chi benderfynu dod i Gaerdydd ac astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?
Wedi 3 blynedd o hyfforddiant lleisiol yn Lodz penderfynais mod i am ymestyn fy ngorwelion ac astudio dramor. Wedi nifer o glyweliadau a chystadleuthau canu mewnol, enillais ysgoloriaeth lawn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdudd. Cefais radd gyda rhagoriaeth ar y cwrs MA Perfformio Opera yn 2013. 

Ym mha ffordd mae'r addysg gerddorol yn y DU yn wahanol i Wlad Pwyl?
Mae gwahanol ddulliau dysgu yn y DU a Gwlad Pwyl.

Yng ngwlad Pwyl mi gefais fy nysgu i ganu mor uchel â phosibl; i arddangos y llais. Canlyniad hyn oedd colli ysgafnder, lliw a harddwch y llais.

Cefais fy nysgu i ganu'n wahanol yma. Rhoddwyd y pwyslais a'r hyblygrwydd a rhyddid y llais. Mae'n hawdd, yn naturiol ac yn ysgafn.

'Dyw pobl ddim am eich gweld yn ymdrechu ar y llwyfan. Maen nhw am eich gweld yn ffynnu ac yn cael amser eich bywyd.  Rydw i wedi dod yn llawer mwy hyderus yn fy ngallu ac wedi canfod gwirionedd newydd yn yr hyn yr ydw i'n ganu amdano.  Cefais hefyd fwy o gyfleon i ddatblygu fel canwr ers symud i'r DU. Bu'n werth yr aberth.

Pwy yw eich hoff gyfansoddwr?
Fy hoff gyfansoddwr yw Peter Tchaikovsky. Rwyf wedi dotio ar ei waith, yn enwedig ei gân ‘Reconciliation', y bum yn ddigon ffodus i'w pherfformio.

Beth yw eich profiad mwyaf cofiadwy hyd yn hyn?
Fy mhrofiad mwyaf cofiadwy hyd yma oedd perfformio Flora’s Servant yn La Traviata gyda Glyndebourne Festival Opera yn y Dublin Opera House. Fe'i teimlais yn fraint i gael canu yn y cynhyrchiad yma. Roedd yr awyrgylch a grewyd gennym fel tîm yn ystod y perfformiad yn rhyfeddol. Roedd yn brofiad byth-gofiadwy yn fy mywyd. Roedd yn gyffrous ac yn emosiynol i weld y gynulleidfa'n sefyll ar eu traed i gymeradwyo ar y diwedd.

Beth oedd eich perfformiad mwyaf didynnol hyd yma?
Wna i byth anghofio perfformiad Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru o Paul Bunyan yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Roeddwn yn canu rhan Hel Helson a hwn oedd fy debut ar y prif lwyfan. Roeddwn yn sefyll ar ben sied, ar ganol y llwyfan, a thywyllwch dudew o'm cwmpas. Wedyn dyma un golau yn dod arnaf wrth imi baratoi am fy aria. Roeddwn i mor nerfus. Theimlais i erioed y fath adrenalin. Wna i byth ei anghofio.

Lle a beth fyddech chi'n hoffi ei ganu ymhen pum mlynedd?
Byddai Eugene Onegin, Toreador, Rigoletto yn rhannau arbennig i mi. Mi fyddwn wrth fy modd yn canu yn y Royal Opera House, Covent Garden ymhen 5 mlynedd. Pwy wyr beth sydd gan ffawd i'w gynnig?

Beth yw eich breuddwyd?
Un dydd, mi fyddwn yn hoffi cyfuno fy mywyd cerddorol gyda'm teulu a'm crefydd. Mae nhw wedi rhoi cymaint imi mewn bywyd ac am hynny mi fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar.

Pe baech chi ddim yn canu opera beth fyddech chi'n ei wneud nawr?
Pe bawn i ddim yn ganwr, mi fyddwn yn bendant yn ddawnsiwr. Dyma fy ail gariad. Gall dawnsio ddangos emosiwn yn yr un ffordd â chanu, ac mae hynny mor hardd. Canfyddais fy angerdd am ddawnsio rhyw ddeng mlynedd yn ôl a chefais y cyfle i hyfforddi mewn ysgol ddawns am nifer o flynyddoedd. Yn anffodus, roedd yn amhosibl imi ddatblygu'r ddwy ddawn, felly fe aberthais y dawnsio. Dydw i ddim wedi ymarfer dawnsio'n ddwys ers tair blynedd bellach, ond mi hoffwn ail afael ynddo rhywbryd yn y dyfodol.