Newyddion

Enillydd Gwobr Stuart Burrows

8th July, 2015

Llongyfarchiadau mawr i’r tenor Cymreig Elgan Llŷr Thomas a enillodd Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows yng Nghaerfyrddin ar y 4ydd o Orffennaf. Yn ogystal â’r brif wobr enillodd Elgan Wobr y Gynulleidfa am ei berfformiad a oedd yn cynnwys aria Tom Rakewell ‘Here I Stand’ o The Rake’s Progress gan Stravinsky, Lieder Schubert ‘Nacht und Träume’, aria Nemorino ‘Una Furtiva Lagrima’ o L’elisir d’amore Donizetti  a’r hyfryd ‘Arafa Don’ gan R. S. Hughes.

Bydd Elgan yn teithio i Dde Ffrainc ym mis Awst i berfformio a chystadlu yn rownd derfynol y Les Azuriales Young Artists Masterclass & Competition cyn symud ymlaen i berfformio rhan Almaviva yn The Barber of Seville yng Ngŵyl Ryngwladol Mananan ar Ynys Manaw  ym mis Medi. Fe fydd wedyn yn dychwelyd i Lundain i ddechrau ei flwyddyn olaf ar gwrs opera enwog y Guildhall School of Music and Drama.