1st September, 2015
Bydd yr anhygoel Shân Cothi yn perfformio rhan yr hudoles Ceridwen i Ddigwyddiad Mawr Ar Waith Ar Daith y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru dydd Sadwrn Medi'r 12fed am 7:30 yr hwyr.
Yr hen chwedl Genedigaeth Taliesin sydd wrth wraidd y perfformiad anhygoel hwn gyda chast o dros 300 o bobl.
Profwch holl hud Ceridwen wrth iddi gymysgu ysbrydoliaeth farddonol y Gymru gyfoes gyda thalentau dawnswyr, cerddorion a chantorion o ben ei cherbyd rhyfel 3 medr!