Newyddion

'Harewood Artists' ENO

12th February, 2016

Mae’n bleser mawr gennym i gyhoeddi y bydd y bas-bariton o Wlad yr Iâ, Andri Björn Róbertsson yn ymuno â Harewood Artists English National Opera y tymor nesaf, a bydd yn gwneud ei début gyda’r cwmni yn yr Hydref.


“Bydd ymuno a chwmni o fri fel ENO fel un o’i Harewood Artists, yn anrhydedd enfawr, ac rwyf yn edrych ymlaen yn sobor i ddechrau fy ngwaith gyda nhw yn yr Hydref. Fedrai ddim aros!”


Astudiodd Andri yn y Royal Academy of Music a’r National Opera Studio yn Llundain. Y llynedd, cyflawnodd ei flwyddyn fel aelod o’r International OPera Studio yn Zurich, lle y perfformiodd nifer o rolau gan gynnwys Sprecher yn Die Zauberflöte. Mae Andri wedi dychwelyd i Zurich Opera y tymor yma fel gwestai I berfformio rolau yn King Arthur gan Purcell ac hefyd i adfywio ei rôl fel Sprecher yn Die Zauberflöte.


Yn 2014, enwyd Andri fel HSBC Laureate of the Académie, Festival d’Aix en Provence (anrhydedd a roddir yn flynyddol i dalentau mwyaf addawol yr Académie) yn dilyn ei ymrwymiad fel Bass yn Trauernacht  - cynhyrchiad llwyfan hyfryd yn seiliedig ar Gantata Cysegredig J.S.Bach. Mae’r cynhyrchiad eisoes wedi teithio i Baris, Amsterdam, Valence, Arras a Lisbon. Bydd Andri hefyd yn gwneud ei début ar gyfer y Royal Opera House Covent Garden yn 2018.


Am fanylion pellach am repertoire ac argaeledd Andri, cysylltwch â sioned@harlequin-agency.co.uk