Newyddion

Pwy sy'n mynd i ble

8th April, 2016

O Gymru i'r Swistir
Bydd y tenor Trystan Llŷr Griffiths yn ymuno â'r International Opera Studio yn Zurich ym Mis Medi lle bydd un o'i rannau yn cynnwys Beppe yn I Pagliacci. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn y National Opera Studio yn Llundain y llynedd, gwnaeth Trystan ei début operatig proffesiynol yn perfformio rhan Ferrando  yn nhaith fechan Scottish Opera o Cosi fan tutte. Yn ddiweddarach bu'n dirprwyo rhan Nemorino yn L'elisir d'amore gydag Opera North. Y tymor hwn bydd Trystan yn gwneud ei début gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru fel Beppe yn I Pagliacci.

Artist Ifanc Scottish Opera
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau ar gwrs opera enwog y Guildhall School of Music and Drama yn Llundain, bydd y tenor Elgan Llŷr Thomas yn ymuno â Scottish Opera fel Emerging Artist lle bydd ei rhannau yn cynnwys Nemorino yn eu taith fechan o L'elisir d'amore. Yn ddiweddar enillodd Elgan Wobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows, Gwobr Kerry-Keane a Gwobr y Gynulleidfa yn Rhaglen Opera Artistiaid Ifanc Les Azuriales 2015 yn Nice. Yr haf yma bydd Elgan yn dirprwyo rhan Lensky yn Eugene Onegin i Garsington Opera. 

IOS i ENO
Bydd Andri Björn Róbertsson y bas-bariton o Wlad yr Iâ, yn ymuno â chynllun Harewood Artists yr English National Opera y tymor nesaf ac yn gwneud ei début gyda’r cwmni yn yr hydref. Yr haf diwethaf cwblhaodd Andri flwyddyn fel aelod o'r International Opera Studio yn Zurich, lle canodd nifer o rannau yn cynnwys Sprecher yng nghynhyrchiad y prif dŷ o Die Zauberflöte. Dychwelodd i Zurich Opera y tymor hwn fel artist gwadd i berfformio amryw rannau yn King Arthur, Purcell a Sprecher yn Die Zauberflöte