Newyddion

Doreen O’Neill: Y Taith Gerddorol

28th June, 2016

Wedi 30 mlynedd nodedig o reoli artistiaid mae Doreen O'Neill yn ymddeol o’i swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Asiantaeth Harlequin.  Sefydlodd Doreen Harlequin ar ford ei chegin yn  1986 gyda’r bwriad o feithrin a datblygu talentau ifanc Cymreig. Ers hynny, mae wedi tywys nifer o gantorion, arweinyddion ac offerynwyr gan sefydlu Harlequin fel asiantaeth uchel ei pharch yng Nghymru a thu hwnt. Dyma’i stori ryfeddol.

Ganed Doreen O'Neill yn 1953 i deulu o gantorion, dim ond un yn llai na’r teulu Von Trapp: Dennis (tenor), Elizabeth (soprano), Patricia (soprano), Doreen (mezzo-soprano), Andrew (chorister yng Nghaergrawnt) a Sean (baritone). Dyna, yn wir, sut yr oedd y tri brawd a’r tair chwaer yn cael eu hadnabod yn ardal eu mebyd ym Mhontarddulais, lle roedd eu tad William yn feddyg lleol.

Roedd Dennis yn dioddef o asthma a chredai nhad y byddai gwersi canu yn gwella rheolaeth ei anadl.  Roedd yn haws i mam fynd a’r cyfan ohonom gyda’n gilydd am wersi. Fe ddechreusom ni gystadlu yn yr Eisteddfod leol – roeddwn i tua 5 oed pan enillais fy ngwobr gyntaf fel unawdydd. Nid wy’n cofio llawer amdano ond dwi’n cofio canu Mary’s Boy Child mewn siop ‘sglods a sgods’ yng Nghaerfyrddin ar y ffordd nôl – mi gefais focs o Cadbury’s Milk Tray am y perfformiad. 

Graddol oedd y symudiad at opera. Roeddem ni i gyd wedi dysgu’r darnau gosod yr eisteddfodau – caneuon Cymraeg, emynau – ond wrth dyfu lan a mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol cawsom ei cyflwyno i ariau operatig. Yn fuan ar ôl ennill y Rhuban Glas dan 25, cefais gynnig i fynd i astudio’r gyfraith yn y Brifysgol yn Aberystwyth, ond wedi ystyried yn ddwfn, mi benderfynais fynd i’r Royal College of Music yn Llundain lle roedd Patricia ar y cwrs opera yn barod.  Derbyniais ysgoloriaeth ac fe roddodd hyn yr hyder imi ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.  Treuliais dair blynedd yn astudio am fy ngradd gyntaf cyn cynnig am le yng Nghorws Glyndebourne. Yn 20 oed, fi oedd y person ifancaf i ymuno â’r corws.

Sefydlodd Doreen ei hunan fel artist llwyddiannus a phoblogaidd, yn perfformio gyda’r rhan fwyaf o brif gwmnïau opera y DU - Scottish Opera, Opera North, Opera Cenedlaethol Cymru a Wexford Festival Opera.

Yr operâu cyntaf imi yn Glyndebourne oedd Eugene Onegin a The Marriage of Figaro. A’r perfformiad wnes i ei fwynhau fwyaf?  Yn bendant i mi Cherubino yn The Marriage of Figaro i Opera Cenedlaethol Cymru. Roedd yn anghyffredin i gastio rhywun mor fyr â fi – fel arfer roedden nhw’n cael rhywun tal a thenau, a doeddwn I ddim yn hynny. Mae’n debyg y gallwch chi ddweud i mi ddehongli’r rhan yn wahanol i bawb arall; mi wnes ei fodelu ar fy mrodyr!

Pan oeddwn yn 33 mi wnes i sylweddoli na fyddwn i byth yn seren ryngwladol fawr, felly roedd hi’n bryd symud ymlaen. Roedd fy mhriodas gyntaf wedi torri ac roeddwn i angen sialens newydd.

Roedd trefnwyr corau yn arfer ffonio fy mam i weld os byddai un ohonom ar gael ar gyfer cyngherddau. Roedd gan bob  un ohonom (plant yr O’Neills) asiant yn Llundain ar y pryd ac rwy’n cofio meddwl pam nad oedd yna asiantaeth yng Nghymru, gwlad y gân. Roedd llawer wedi ceisio a methu. Fe welais y cyfle a mynd amdano.