Newyddion

'A Falstaff for our age'

30th November, 2016

Neithiwr, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, lansiwyd y pumed botel yng nghasgliad 'Icons of Wales' Penderyn. Mae'r botel arbennig yma'n dathlu Bryn Terfel a'i hoff rôl. Mae'r wisgi'n sbeislyd a moethus gydag elfen theatrig i'r dyluniad, sy'n adlewyrchu cymeriad Falstaff i'r dim.

Mae portread Bryn Terfel o gymeriad Falstaff yn cael ei ystyried fel un o bortreadau gorau'r genedl, gyda beirniaid yn canmol ei nerth, hiwmor, boneddigeiddrwydd, meistrolaeth eithriadol o dôn ac iaith a'i frwdfrydedd heintus.

Bydd y botel ar gael i'w archebu o wefan Penderyn yn fuan. http://www.welsh-whisky.co.uk