Newyddion

Artistiaid Newydd

11th October, 2017

Chanáe Curtis
Astudiodd y soprano Americanaidd Chanáe Curtis yn Ashland University, Ohio cyn chwblhau ei gradd Meistr yn y Manhattan School of Music, Efrog Newydd. Yn 2016, graddiodd o'r Cwrs Opera M.A. yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd lle cafodd ei dysgu gan Suzanne Murphy.

Mae ei hymrwymiadau perfformio y tymor hwn yn cynnwys datganiad yn St-Martin- in-the-Fields ar 14 Hydref a'r Te Deum o Four Sacred Pieces Verdi gyda Cherddorfa'r Halle, dan arweiniad Syr Mark Elder ar 16 Tachwedd, a ddarlledir ar BBC Radio 3.

Meinir Wyn Roberts
Graddiodd y soprano Meinir Wyn Roberts o’r Royal Northern College of Music, Manceinion gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd M.A. yn y Royal Academy of Music, Llundain. Erbyn hyn, mae’n dilyn y Cwrs Opera yno, dan diwtoriaeth Lillian Watson a Jonathan Papp.

Mae ymrwymiadau’r tymor hwn yn cynnwys Tina yn Flight gyda’r Royal Academy Opera, Agileayn Teseo gyda’r London Handel Festival a datganiad yn Neuadd Wigmore, Llundain fel rhan o’r Royal Academy Song Circle Group.

Sian Meinir
Mae gan y mezzo-soprano o Gymru Sian Meinir dros 20 mlynedd o brofiad yn perfformio gyda rhai o brif gwmniau opera'r Deyrnas Unedig. Mae ansawdd ei llais contralto trawiadol yn rhoi repertoire eang iddi sy'n ymestyn o Verdi, Wagner, Janacek a Schoenberg i rolau cymeriad a gweithiau cyfoes. 

Mae ei rhannau i Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys Iseult of the White Hands yn Le Vin Herbe; Enrichetta yn I Puritani a Margaret yn Wozzeck. Y tymor yma bydd Sian yn perfformio rhannau Dr. Heinkel/ Alfana/ Hen wraig y Bala yn y premiere byd o Wythnos yng Nghymru Fydd gyda Opra Cymru.

Angharad Lyddon

Gwnaeth Angharad Lyddon ei début proffesiynol gyda English National Opera yn 2015 fel Kate yn Pirates of Penzance a pherfformiodd y rhan drachefn mewn cynhyrchiad newydd yn 2017. Mae hefyd wedi dirprwyo Perdita yn The Winter's Tale Schoolboy, Dresser a Waiter yn Lulu ar gyfer ENO. 

Creodd ran Panthea yn opera Luke Styles Wakening Shadow tra roedd yn Jerwood Young Artist yn Glyndebourne yn 2013 ac mae wedi perfformio Olga yn Eugene Onegin i Opra Cymru, Cherubino yn The Marriage of Figaro i Clonter Opera a Julia Bertram yn Mansfield Park gyda The Grange Festival.

Kieron-Connor Valentine
Mae'r uwch-denor Kieron-Connor Valentine ar hyn o bryd yn dilyn cwrs B.Mus Astudiaethau Lleisiol yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion. Yn ystod ei amser yn y coleg mae wedi perfformio L'humana fragilita yn Il ritorno in patri d'Ulisse; Oberon yn A Midsummer Night's Dream a Didymus yn Theodora. 

Yn 2018 bydd Kieron-Connor yn ymuno a rhaglen Britten-Pears Aldeburgh Festival fel Didymus yn Theodora ac yn perfformio Tolomer yn Julius Caesar gyda Bury Court Opera. 

Huw Ynyr
Graddiodd y tenor Cymreig, Huw Ynyr gyda rhagoriaeth o'r cwrs M.MUS Perfformio ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2015. Mae eisoes wedi perfformio mewn cyngerdd gyda Syr Bryn Terfel, y cyn-delynorion Brenhinol, Hannah Stone a Rhianwen Pugh ac mae'n unawdydd poblogaidd mewn cyngherddau ac oratorio gyda chymdeithasau corawl ar draws y wlad. 

Y tymor hwn, mae'n parhau a'i astudiaethau lleisiol ar y cwrs M.A. Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd dan hyfforddiant Adrian Thompson.