Newyddion

ARWYDDO CYTUNDEB DECCA

4th January, 2018

Ch-D: Trystan Griffiths gyda Dr. Alexander Buhr (Rheolwr Gyfarwyddwr Decca Classical Label Group)
GAN DDILYN YN ÔL TROED MAWRION CYMRU

TRYSTAN LLŶR GRIFFITHS

YN ARWYDDO CYTUNDEB DECCA AR GYFER ALBWM NEWYDD YN 2018



Arwyddodd Trystan Griffiths, y tenor o Glunderwen sy’n caru’r rygbi, gytundeb pwysig â Decca Records, gan lofnodi’r ddogfen yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, yn fuan cyn canu yn gêm ryngwladol Cymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

Mae Trystan yn cael ei fentora gan ei gyd Gymro, Syr Bryn Terfel, a fydd hefyd i’w glywed ar ei albwm gyntaf – a fydd yn cael ei rhyddhau yn 2018. Cyn hynny, gellir clywed Trystan ar yr albwm newydd Nadoligaidd ‘The Nation’s Favourite Carols’ yn canu dehongliad prydferth o O Holy Night. Drwy arwyddo cytundeb Decca Records mae’n ymuno â llu o enwogion, ac yn eu plith Luciano Pavarotti a Joseph Calleja, rhai o arwyr Trystan ym myd canu.

Wrth siarad am yr arwyddo, meddai Trystan, “Rydw i wrth fy modd fy mod yn ymuno â Decca. Mae ganddynt un o’r ôl-gatalogau mwyaf trawiadol o artistiaid yr ydw i’n eu hedmygu, ac rwy’n falch o ymuno â rhestr gyfredol o gantorion clasurol sydd bellach wedi dod yn enwau cyfarwydd. Rwyf newydd ddechrau gweithio’n y stiwdio ar recordio fy albwm gyntaf gyda nhw. Dyma, o bosibl, yw’r anrheg Nadolig gorau erioed!”

Mae Trystan yn ymuno â rhestr faith o sêr y byd canu rhyngwladol sy’n dod o Gymru, a bydd yn ymuno â Katherine Jenkins yn y Royal Festival Hall yn Llundain heno (8pm) yng Nghyngerdd Huawei Winter gyda Cherddorfa Philharmonic Llundain, Tenebrae, y côr siambr gwobrwyedig ac Anthony Inglis, yr arweinydd a enwebwyd am wobr Grammy.

Magwyd Trystan yng Nghlunderwen yn Sir Benfro, a’i fam-gu a fu’n meithrin ei ddiddordeb mewn canu. Erbyn iddo gyrraedd pump oed, roedd yn cystadlu mewn Eisteddfodau fel unawdydd a hefyd ochr yn ochr â’i frodyr a’i chwaer mewn ensemble lleisiol o’r enw  ‘Y Teulu Griffiths’. Yn yr ysgol roedd ei ddawn ar y cae rygbi cyn bwysiced iddo â’i ddiddordeb angerddol mewn canu, ac roedd yn aelod o’r tîm rygbi lleol a hefyd o Gôr Meibion Ar Ôl Tri, lle mae ei dad yn dal yn aelod.

Nid fu llwybr Trystan at yrfa fel canwr yn un cwbl syml. Ar ôl gadael yr ysgol, rhannai ei amser rhwng chwarae rygbi i Glwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf, Clwb Rygbi Crymych a gweithio fel ffiter drysau garej yn ei gartref yn Sir Benfro. Ond yn fuan enillodd cerddoriaeth y blaen a bu’n astudio yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Llundain cyn dychwelyd i Gymru i astudio ar Gwrs Oper Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd. Yna cwblhaodd Trystan ei hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain.

Nid yw’r cytundeb hwn gyda Decca yn rhywbeth cwbl annisgwyl. Cafodd Trystan ei enwi yn ‘Llais Cymru’ gan Decca Records yn 2012 ar ôl iddynt wrando ar fwy na 600 o gantorion mewn cyfres deledu a ddarlledwyd gan S4C. Meddai  Dr. Alexander Buhr, Rheolwr Gyfarwyddwr Decca Classical Label Group, “Roedd Trystan yn amlwg yn rhagori wrth inni chwilio am ‘Lais Cymru’ yn 2012 ac rydym wedi bod yn dilyn ei gynnydd yn ofalus byth ers hynny. Mae’n ganwr a chanddo dalent aruthrol a phersonoliaeth heintus ac mae dyfodol disglair o’i flaen. Rydym ni wrth ben ein digon o gael Trystan fel partner yn Decca Records ac yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ar ei albwm gyntaf.”

Roedd y llynedd yn flwyddyn fawr i Trystan. Priododd Gwen, ei gariad ers dyddiau ysgol, ac yna gadawodd Gymru i ymuno â’r Stiwdio Opera Ryngwladol yn Zürich lle mae wedi bod yn meistroli ei grefft. Hyd yma mae wedi perfformio gydag Opera Zürich, Opera’r Alban, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera North a bydd yn ymddangos y tro cyntaf gydag Opéra National de Lorraine yn Ffrainc yn y Flwyddyn Newydd.