Newyddion

TRYSTAN YN RHYDDHAU SENGL NEWYDD GYDA DECCA

1st March, 2018

Rhwng ymarferion a pherfformiadau opera yn Ffrainc, cyngherddau gyda Katherine Jenkins ac ambell gêm rygbi achlysurol, mae'r Tenor o Gymru, Trystan Griffiths, wedi bod yn brysur yn recordio ei albwm gyntaf i Decca, ar ôl arwyddo cytundeb â'r cwnni ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae'r trac cyntaf oddi ar yr albwm yn cael ei ryddhau heddiw, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Emyn Cymraeg cyffrous yw Gwahoddiad ac un o hoff anthemau'r tyrfaoedd mewn gemau rygbi yng Nghymru, ac a mae i'w glywed yn aml yn llifo drwy Stadiwm y Principality yn ystod gemau'r Chwe Gwlad a gemau rhyngwladol. Cafodd ei recordio'n ddiweddar gan Trystan yn Stiwdios Abbey Road yn Llundain, lle bu'r Beatles, Pink Floyd a'r Hollies yn recordio rhai o'u halbymau mwyaf eiconig yn y 60au. I gyd-fynd â'r trac mae Decca hefyd yn rhyddhau fideo o Trystan yn canu Gwahoddiad, wedi ei ffilmio yn rhai o leoliadau mwyaf trawiadol Cymru. Mae'n wahoddiad i'w fyd ef, i dirweddau ei gartref ac i ddiwylliant Cymru. Ac i goroni'r cyfan, mae Côr Meibion ei filltir sgwâr yn ymuno ag ef ar y trac hwn. Côr yw hwn yr arferai Trystan ganu ynddo pan oedd yn fachgen ifanc, ac y mae ei dad yn parhau i fod yn aelod ohono, sef Côr Undebol Ar Ôl Tri. 

Meddai Trystan, wrth drafod cyhoeddu ei sengl gyntaf, "Mae Gwahoddiad yn gân berffaith i'w rhyddhau ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae'n wahoddiad i Gymru, ac yn ddathliad o'r diwylliant a'r gymuned oedd yn allweddol i'm magwraeth a'm gyrfa fel canwr. Rwy'n edrych ymlaen at ei rhannu â phawb, a phwy a ŵyr, efallai y bydd y dorf yn Stadiwm y Principality yn ymuno â mi gydag afiaith ar 17 Mawrth yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc."

Mae Gwahoddiad ar gael i'w lawrlwytho o iTunes, Spotify a'r holl bartneriaid digidol heddiw.