2nd March, 2018
Bydd y mezzo soprano Angharad Lyddon yn cystadlu yn un o gystadlaethau canu pwysicaf y Wlad, sef Llwyfan Cantorion Cymreig 2018. Yn ogystal â gwobr ariannol, bydd y canwr buddugol yn ennill y cyfle digymar i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn 2019.
Bydd Angharad yn cystadlu yn erbyn y sopranos Sarah Gilford, Carly Owen, Jessica Robinson ac Ellen Williams.
Bydd y pum cystadleuydd yn canu i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, dan arweiniad Gareth Jones ger bron panel o feirniaid enwog yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar nos Sadwrn 30 Mehefin am 19:30.