Newyddion

Dathliad Dydd Gwyl Dewi

21st February, 2015

Maer bâs-bariton Cymreig Bryn Terfel yn dathlu Gŵyl Dewi mewn Cyngerdd Gala arbennig yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.


Mae yna ddigwyddiad arbennig iawn yn Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Ieuenctid Cymru dan arweiniad  Gareth Jones, yn cael cwmni’r bâs-bariton enwog Bryn Terfel am brynhawn o Ganeuon Cymreig.

Dwi ddim wedi gallu bod yng Nghymru ar Ddydd Gŵyl Dewi ers blynyddoedd, ac felly dwin teimlon gyffrous iawn i ddychwelyd i Neuadd Dewi Sant  ar Fawrth 1af i ddathlu gyda phrynhawn or clasuron Cymreig."

Bydd Bryn yn perfformio rhai o’r caneuon sydd agosaf at ei galon, yn cynnwys Bryniau Aur fy Ngwlad gan R. S. Hughes, Tosturi Duw, W. S. Gwynn Williams ac Aros Mae'r Mynyddau Mawr gan Meirion Williams. Yn ymuno gyda Bryn mae’r arweinydd Gareth Jones, enillydd ‘Llais y Dyfodol’  2013 yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Menna Cazel a’r delynores frenhinol,  Hannah Stone. 

Siaradodd Carys Davies, golygydd y cylchlythyr gyda’r artistiaid Cymreig Menna Cazel a Hannah Stone cyn iddynt ymddangos yn Neuadd Dewi Sant.

Mae Cymrun cael ei hadnabod fel Gwlad y Gân. Pa effaith gafodd hyn ar eich penderfyniad i fod yn gantores broffesiynol, Menna?

Mae pob agwedd ar fywyd Cymrun teimlo fel pe bai rhyw elfen neu gysylltiad cerddorol - fel pobl yn mwmian canu iddyn nhwi hunan yn y stryd, yn canu gyda balchder mewn gêm rygbi, neun cystadlu mewn eisteddfodau - dwin teimlo mod i wastad wedi cael miwsig a chanu o nghwmpas i ym mhobman.


Maer delyn yn cael ei ystyried fel offeryn cenedlaethol Cymru. Beth wnaeth chi ei dewis fel eich offeryn chi, Hannah?

Wel, mi ddewisais y delyn drwy ddamwain yn fwy na dim! Cefais y cynnig yn yr ysgol gynradd i ddysgu gydag athro peripatetig ac mi neidiais am y cyfle. Roedd fy rhienin gefnogol iawn , ac yn ffodus mi gymrais at y delyn or cychwyn. Mi dreiais y delyn deires unwaith, roeddwn yn ofnadwy! Teimlwn reit chwil gyda thair rhes o dannau. Dwin credu fod pobl syn canur delyn deires mor fedrus. Mae un rhes o dannaun ddigon anodd, heb sôn am dair! 

Ydych chi'n cael y cyfle i hyrwyddo'r delyn y tu allan i Gymru?

Ydw, mae fy ngwaith yn mynd a fi dros y lle. Rwy'n teithio dros y DU yn rheolaidd – mae'r llanast yn fy nghar yn dangos faint o amser dwi'n ei dreulio ynddo! Rwyf hefyd wedi teithio ymhellach yn cynnwys Tokyo a ffatri telynau Salvi yn yr Eidal.

Beth ddywedech chi yw'r uchafbwynt fel telynores frenhinol hyd yn hyn?

Rydw i wedi bod mor ffodus i gael cymaint o gyfleon ers cael fy apwyntio fel y Delynores Frenhinol, mae'n anodd dewis un peth. Yn sicr mae cael fy ngwahodd i ganu'r delyn yng nghinio Cynhadledd NATO yn y Celtic Manor yn sefyll allan. Tywysog Cymru oedd yn gwahodd pawb ac roedd Barak Obama, Angela Merkel a David Cameron ymhlith y gwahoddedigion. Dwi ddim yn credu fod Obama yn yr ystafell pan oeddwn i'n perfformio, yn anffodus! Ond roedd yn ddiwrnod mor gyffrous i sylweddoli mod i wedi cael bod yn rhan fechan o ddigwyddiad mor fawr.

Sut oeddech chi'ch dwy yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi pan oeddech chi'n blant?

Hannah: Roedd pawb yn gorfod cymryd rhan yn Eistedfod yr Ysgol. A bod yn hollol onest, mi fyddai'r rhan fwyaf ohonolm yn cwyno am orfod cymryd rhan, pan oeddem yn mynd yn hŷn ond rwy'n siwr yn y bôn roedden ni'n falch o fod yn rhan ohono, hyd yn oed y disgyblion heb unrhyw ddiddordeb yn y celfyddydau. Mae hi mor bwysig i barhau'r traddodiad gan ei fod yn rhan bwysig o'n diwylliant. 

Menna: Mi fydden ni'n gwisgo lan mewn gwisg Gymreig yn yr ysgol gynradd. Ar y cychwyn, roedd hyn yn iawn ond erbyn imi droi 9 neu 10 roeddwn hyd pen yn dalach na phawb arall o'm ffrindiau ac yn edrych yn wirion!   Yn anffodus, mi es i ysgol uwchradd Saesneg ac ni pharhaodd y traddodiad. 

Menna, y llynedd roeddech yn dathlu dydd Gŵyl Dewi gyda Chôr Cymraeg Sydney yn Awstralia. Oedd hi'n rhyfedd i'w ddathlu y tu allan i Gymru?

Roedd yn od i beidio bod yng Nghymru ond roeddwn yn teimlo'n gartrefol iawn. Roedd y bobl yn wych, mor bell o'u gwreiddiau, yn siarad Cymraeg yn well na fi a rhai ohonyn nhw heb fod yn ôl yng Nghymru ers trigain mlynedd, os o gwbl.  Roedd yn ysbrydoliaeth ac fe wnaeth imi sylweddoli fod angen i'r traddodiadau yr ydw i'n eu cymryd yn ganiataol gael eu hanwylo a'u hymarfer i'w cadw'n fyw. 

Rydych wedi eich cofrestru ar gwrs ôl-radd mewn opera yn Leipzig yn yr Almaen. Ydych chi'n gallu dod yn ôl i Gymru yn aml?

Rwy'n ôl yng Nghymru yn fras unwaith y mis, am gyngerdd neu glyweliad ond mae'n dibynnu ar y mis. Treuliais y rhan fwyaf o'r tymor diwethaf allan o'r Almaen gyda chystadleuaeth yn Siapan, cyngherddau yn y DU a chlyweliadau dros y lle – mae'n dibynnu ar y dyddiadur.

Ydych chi'n edrych ymlaen i'r cyngerdd Gŵyl Dewi yn Neuadd Dewi Sant yr wythnos hon Hannah?

Yn bendant! Mi fyddaf yn perfformio'r trydydd symudiad o Concerto William Mathias i'r Delyn . Mae ei gyfraniad i repetoire y delyn, unawdau a siambr, yn amhrisiadwy. Mae ei ysgrifennu'n gyffrous a soniarus ond hefyd yn feddylgar ar adegau. Gan imi fod yn ddigon ffodus i gael chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru gwpwl o weithiau, dwi wir yn edrych ymlaen at y cyfle i berfformio fel unawdydd gyda cherddorfa mor wych.

Sut aethoch chi ati i ddewis repetoire ar gyfer y cyngerdd, Menna?

Mewn cyngerdd fel hyn, rhaid dewis caneuon sy'n ein llenwi gyda llawenydd a'r teimlad o falchder o fod yn Gymry. Daeth Cymru Fach i'r meddwl yn syth am ei bod am y balchder hwnnw waeth lle rydych chi yn y byd. Mae'n fy ngwneud yn hapus iawn pan fyddaf yn ei chanu ac allwch chi ddim peidio cael eich lapio yn yr emosiwn a'r hiraeth sydd ynddi.  Nid yw'r ail gân mor hapus, ond mae'n un o'r melodiau harddaf a mwyaf gwefreiddiol yn y repetoire Cymreig. Mae Ynys y Plant yn sôn am golli plentyn a'r fam yn esbonio i b'le mae'r plentyn yn mynd wedi marw.  Mae'n emosiynol iawn ac rwy'n disgwyl gweld ambell i ddeigryn yn y gynulleidfa!  

Oes gennych chi hoff gyfansoddwr, Menna? Os oes, pwy a pham?

Na does dim un arbennig, yn anffodus. Rwy'n hoff iawn o Meirion Williams, yn enwedig Pan ddaw'r nos, oherwydd yr awyrgylch mae'n ei greu yn y cyfeiliant ond dydw i ddim wedi chwilota digon i ddewis ffefryn! Rhaid imi gael mwy o gerddoriaeth Gymreig!

Petaech chi ddim yn canu opera, beth fyddech chi'n ei wneud nawr?

Dwi wirioneddol yn mwynhau teithio a dysgu am ddiwylliannau newydd a ieithoedd newydd ac mi fyddai angen iddo fod yn rhywbeth o gwmpas hynny. Naill ai hynny, neu'r cynllun gwreiddiol o fod yn fferyllydd – dwi'n credu imi ddewis yr opsiwn mwy cyffrous! Gawn ni weld sut byddai'n teimlo mewn 5 mlynedd..

Hannah, dwi'n deall pe baech chi ddim yn canu'r delyn y byddech chi efallai wedi hoffi gwneud rhywbeth yn ymwneud â bwyd – Fyddwch chi'n coginio rhywbeth arbennig ar gyfer Dydd Gwyl Dewi? Beth yw eich hoff fwyd Cymreig?

Wel wn i ddim os byddai gyrfa felly wedi bod yn bosibl ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn bwyd a bwyta! Mi fyddai'n bendant yn paratoi pice ar y maen os yw amser yn caniatau! Os oes rhaid imi ddewis un peth, cawl fyddai'r ffefryn. Mi wn i ei fod yn swnio braidd yn ddi-ddychymyg ond gan nad ydw i'n dilyn unrhyw rysait ac yn ei baratoi'n wahanol bob tro ac yn defnyddio beth bynnag sydd wrth law, dwi byth yn diflasu arno. Efallai, pe bawn i'n fwy anturus mi fyddwn yn mynd i'r farchnad yn Abertawe a phrynu cocos a bara lawr a bod yn greadigol!

Darlledir y cyngerdd yn fyw ar BBC Radio 3, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Teledir uchafbwyntiau'r Cyngerdd ar S4C ar Fawrth yr 8fed am 7:30pm. 


Gallwch wylio S4C ar Freeview - 4, Virgin TV - 166, Freesat - 104, Sky 104 a thu allan i Gymru ar Virgin TV - 166, Freesat - 120, Sky - 134.


Mae rhaglenni S4C i'w cael ar alw ar BBC iPlayer.