Mae galw mawr am y sielydd o Gastell Nedd, Steffan Morris, fel unawdydd, chwaraewr siambr a cherddorfaol ac mae ganddo yrfa brysur ac amrywiol.
Pan oedd yn 13 oed, dechreuodd astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin yn Surrey gyda'r sielydd enwog, Thomas Carroll. Tra'n fyfyriwr yno perfformiodd fel unawdydd mewn neuaddau o fri fel Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru yn Nghaerdydd a'r Wigmore Hall a'r Royal Albert Hall yn Llundain.
Yn 17 oed, enillodd Steffan gystadleuaeth Texaco Young Musician of Wales.
Yn 2010, symudodd Steffan i Vienna i astudio'r soddgrwth dan y tiwtor enwog yr Athro Heinrich Schiff ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio. Ef yw'r ieuengaf i fod yn brif sielydd gwestai Cerddorfa Siambr Vienna ac mae wedi bod yn brif westai soddgrwth gyda'r London Philharmonic Orchestra, y Royal Philharmonic Orchestra a Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC. Ym mis Ionawr 2020, ymunodd â'r Royal Northern Sinfonia fel prif-sielydd.
Mae'n Gydymaith Creadigol i Sinfonia Cymru ac wedi perfformio iddynt fel unawdydd. Mae ef hefyd wedi bod yn unawdydd i'r Cardiff Philharmonic Orchestra, Guildford Philharmonic Orchestra a'r Surrey Philharmonic Orchestra. Mae ei gyngherddau a'i ddatganiadau wedi mynd ag e i Siapan, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal, Rwsia ac Awstria.
Mae Steffan yn Gyfarwyddwr Artistig y Nidum Ensemble - grwp deinamig, amrywiol ac arloesol o gerddorion proffesiynol ifanc sy'n credu'n angerddol mewn dod a cherddoriaeth siambr i gynulleidfaoedd ledled y DU.
Fel cyn-sielydd y Marmen Quartet, mae Steffan wedi perfformio ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Bu'r pedwarawd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Bordeaux i Bedwarawdau Llinynnol yn 2019 ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Banff i Bedwarawdau.
Fel tiwtor, but Steffan yn Athro-cynorthwyol yn Ysgol Yehudi Menuhin a'r Royal College of Music, Llundain ac mae ef bellach yn dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Mae Steffan yn chwarae soddgrwth a wnaed gan Johannes Cuypres yn 1770 yn yr Hag. Fe'i noddir gan Kate Dugdale.
Nidum Ensemble: www.nidumensemble.com
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.