Dechreuodd y bariton Catalanaidd Lluís Calvet i Pey ei astudiaethau yn y Conservatori Professional de Sabadell gyda'r athrawes canu, Elisenda Cabero. Yn 2017 dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Addewidion Ifanc gan y Fundació de Música Ferrer-Salat i astudio am radd canu yn y Conservatori Superior del Liceu gyda'r athrawes ganu, Maria Dolors Aldea, y hyfforddwraig lleisiol Marta Pujol, a'r athro siambr Alan Branch.
Ym mis Medi 2020, symudodd Lluís i Gaerdydd i ddechrau ei flwyddyn olaf o astudiaethau israddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel rhan o raglen ERASMUS ac yna fe'i gwahoddwyd i ymuno ag Ysgol Opera David Seligman. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i Lluís gwblhau ei MA mewn Opera Uwch yn CBCDC gan y Clive Richards Foundation a’r John & John Foundation.
Ar hyn o bryd mae Lluís yn aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol y Staatsoper Hannover, lle mae ei rolau yn cynnwys William yn The Fall of the House of Usher, Fiorello yn Il Barbiere di Siviglia, Belcore yn L'elisir d'amore, Lovec yn Rusalka, M. Javelinot, Second Commissioner a Jailer yn Dialogues des Carmélites, Sherifa yn Hamed und Sherifa gan Zad Moultaka, Ruggiero yn Die Jüdin gan Halévy a Ping yn Turning Turandot.
Ymysg ei ymrwymiadau diweddar eraill mae Small Prisoner/Bitter Prisoner yn From the House of the Dead yng Ngŵyl Haf Ruhrtriennale dan arweiniad Dennis Russell Davies a Publio mewn recordiad o L'Esule di Roma gydag Opera Rara a'r Britten Sinfonia dan arweiniad Carlo Rizzi. Yn 2022, cymerodd ran yn L'Academia Rossiniana di Pesaro yn chwarae rhan Lord Sidney yn Il viaggio a Reims gan Rossini. Fel aelod o CBCDC, roedd ei rolau yn cynnwys Eisenstein yn Die Fledermaus a Count Almaviva yn The Marriage of Figaro. Mae ei gynlluniau nesaf yn cynnwys Chou en-lai yn Nixon in China ar gyfer Staatsoper Stuttgart dan arweiniad André de Ridder a Prunier (fersiwn bariton) mewn recordiad o La Rondine gan Puccini gydag Opera Rara a Cherddorfa Symffoni'r BBC, dan arweiniad Carlo Rizzi.
Cyrhaeddodd Lluís rownd derfynol Cystadleuaeth Ganu Belvedere 2023, ac enillodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth ganu Concours de Cant les Corts de Barcelona yn 2020. Mae wedi mynychu gweithdai cerdd yn y Royaumont Abbey & Foundation gyda Stéphane Degout, Alain Planès, Christian Immler, Andreas Frese a Claire Thirion, ac mae wedi derbyn nifer o wobrau, yn fwyaf diweddar Ysgoloriaeth Eva Kleinitz gan Opera Europa.
Mae gan Lluís repertoire cyngerdd ac Oratorio helaeth ac mae wedi perfformio Meseia Handel, Magnificat Rutter a Requiem Mozart, Fauré a Brahms.