Wedi’i sefydlu ei hun ar lwyfannau’r Royal Opera House, Covent Garden; English National Opera; Scottish Opera; Opera Cenedlaethol Cymru, mae’r mezzo-soprano o Gymru Leah-Marian Jones wedi gwneud ymddangosiadau yn The Metropolitan Opera, Efrog Newydd; Théâtre du Châtelet; Angers-Nantes Opéra ac Opéra de Rennes, Ffrainc.
Yn raddedig o’r Royal Northern College of Music a’r National Opera Studio, Llundain, roedd Leah-Marian Jones yn un o Brif Artistiaid Cwmni y Royal Opera House, Covent Garden am wyth mlynedd lle canodd dros 30 rhan yn cynnwys Tisbe yn La Cenerentola; Dorabella yn Così fan tutte; Maddalena yn Rigoletto; Mercedes yn Carmen; Annina yn Der Rosenkavalier; Flosshilde yn Das Rheingold a Götterdämmerung.
Mae perfformiadau Leah-Marian fel cantores lawrydd yn cynnwys: Carmen; Maddalena yn Rigoletto; Orestes yn La Belle Helene; Sonyetka yn Lady Macbeth of Mtzensk; Rossweisse yn Valkyrie a Hippolyta yn A Midsummer Night’s Dream i English National Opera; Meg Page yn Falstaff; Dorabella yn Così fan tutte; Hansel a Witch yn Hänsel und Gretel; Annina yn Der Rosenkavalier; Page yn Salome; Bersi yn Andrea Chenier; Baba the Turk yn The Rake’s Progress; Jezibaba yn Rusalka a Rossweisse, Flosshilde a Norn yn y Ring Wagner i Scottish Opera; Sara yn Roberto Devereux; Hedwige yn Guillaume Tell; Amenofi yn Mosè in Egitto; Lola yn Cavalleria Rusticana; Maddalena yn Rigoletto a Kabanicha yn Kátya Kabanová a
Genevieve yn Pelléas et Mélisande, a oedd yn cynnwys perfformiadau yn yr Hong Kong International Arts Festival i Opera Cenedlaethol Cymru; Zaida yn Il Turco in Italia a Polly Peachum yn The Beggars Opera i The Royal Opera House, Covent Garden; Maddalena a Giovanna yn Rigoletto i Opera North; Frederica yn Luisa Miller i Chelsea Opera; Carmen in La Tragedie de Carmen i English Touring Opera a Hippolyta yn A Midsummer Night’s Dream yn Aldeburgh Festival.
Gwnaeth ei début Americanaidd fel Junon yn Platée yn Berkeley, San Francisco ac yn ddiweddarach pherfformiodd The Young Doctor yn Palestrina gyda’r Metropolitan Opera House, Efrog Newydd. Yn Ewrop, mae wedi canu Flosshilde yn Götterdämmerung yn Théâtre du Châtelet, Paris; Meg Page yn Falstaff a Flora yn La Traviata i Angers-Nantes Opéra a Opéra de Rennes; Kabanicha in Katya Kabanova gydag Opéra National de Lorraine a Hippolyta in A Midsummer Night’s Dream yn Teatro Massimo, Palermo.
Mewn cyngerdd mae Leah-Marian wedi perfformio Flosshilde mewn perfformiad cyngerdd o Das Rheingold gyda Cherddorfa’r Hallé dan arweiniad Syr Mark Elder yn y Bridgewater ym Manceinion; Sea Pictures Elgar gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghadeirlan Dewi Sant fel rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun; Madame Rivers yn Adelson e Salvini gyda’r BBC Symphony Orchestra ar gyfer Opera Rara – perfformiad a chafodd ei recordio; Rossweisse a Flosshilde mewn perfformiadau cyngerdd o Die Walküre a Götterdämmerung gyda’r Hallé Orchestra dan arweiniad Syr Mark Elder yn y Manchester International Festival; Rossweisse mewn perfformiad cyngerdd o Act 3 Die Walküre yn y Glastonbury Festival ac fel rhan o dathliadau penblwydd Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd yn 10 oed. Mae ei hymddangosiadau cyngerdd yn y Royal Albert Hall, Llundain yn cynnwys Cyngerdd Gala gyda'r diweddar Luciano Pavarotti; perfformio mewn cyngerdd o waith Verdi ym Mhroms y BBC; Messiah Handel a darllediad teledu o Mass for Peace - The Armed Man Karl Jenkins, dan arweiniad y cyfansoddwr i ddathlu ei benblwydd yn 60 oed.
Mae wedi cyflwyno rhaglen ei hun ar S4C ac wedi ymddangos fel unawdydd ar Diva, Diva, Diva gyda Lesley Garrett ar BBC 2. Mae recordiadau’n cynnwys Paul Bunyan Britten i Chandos.
Y tymor hwn, mae Leah-Marian yn ymuno ag Opra Cymru i berfformio rhan Despina yn eu cynhyrchiad ar daith o Cosi Fan Tutte. Ymhlith ei huchafbwyntiau diweddar mae rhannau Latifa a Old Lady yn opera newydd Mohammed Fairouz, Al Wasl yn Dubai gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ei rôl gyntaf fel Marcellina yn Le nozze di Figaro, y Dywysoges Marie Akrossimova/ Aide de Camp of Murat/ Mavra Kuzminichna yn War and Peace a Secretary mewn perfformiadau cyngerdd o The Consul hefyd i gyd gyda WNO, Zita yn Gianni Schicchi ar gyfer Opera North a Rosa mewn perfformiadau cyngerdd o Silvano gyda Scottish Opera.
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.