Pianydd llawrydd yw Caradog Williams a’i gartref yng Nghaerdydd. Tra’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli, astudiodd y piano gyda D. Hugh Jones FRCO, ac yn dilyn graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, astudiodd Cyfeilio ar y Piano yn y Royal College of Music dan Roger Vignoles a John Blakely, lle'r oedd yn Sgolor yr Associated Board.
Mae Caradog wedi gweithio fel répétiteur ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mae wedi gweithio gydag athrawon ac arweinwyr blaenllaw ym maes opera gan gynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, Richard Bonynge, Dennis O’Neill a Carlo Rizzi.
Ar y llwyfan cyngerdd mae Caradog wedi cyfeilio i Syr Bryn Terfel, Gwyn Hughes Jones, Rebecca Evans, Elin Manahan Thomas a Syr Willard White ac yn ymddangos yn rheolaidd gyda John Owen Jones, Only Men Aloud a Tri Tenor Cymru. Y mae wedi teithio gyda Tri Tenor Cymru dair gwaith i Ogledd America ac ef yw’r cyfeilydd a’r trefnydd ar eu dau albwm.
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.