19th September, 2016
Bydd y tenor Cymreig Trystan Llŷr Griffiths yn gwneud ei début gyda Zurich Opera'r tymor hwn yn perfformio rôl Beppe yn opera trasig dwy-act Leoncavallo, Pagliacci.
Gwnaeth Trystan ei début gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu rhan Beppe y tymor diwethaf. Mae'n ymuno â'r International Opera Studio yn Zurich ar gyfer 2016/17 ac yn edrych ymlaen at berfformio'r rhan gyferbyn i Roberto Alagna fel Canio gyda Zurich Opera.
Gwyliwch adfywiad Zurich Opera o Cavalleria Rusticana a Pagliacci yn yr Hauptbühne Opernhaus yr Hydref hwn.
Dyddiadau Perfformio
24 Medi 2016, 19:00
28 Medi 2016, 19:00
04 Hydref 2016, 20:00
09 Hydref 2016, 14:00
12 Hydref 2016, 19:00